Trawsblaniad achub bywyd 'ar ôl cwrdd ar hap ar draeth'
- Cyhoeddwyd
Pan aeth Lucy Humphrey am dro i'r traeth gyda'i phartner a'u cŵn yn 2021, roedd hi'n bosib mai ond ychydig flynyddoedd oedd ganddi i fyw.
Ond wedi iddi gyfarfod person dieithr ar hap gafodd ei "dewis" gan ei chi, fe newidiodd ei bywyd.
Roedd Lucy wedi bod yn byw ers degawd a hanner gyda lupus - cyflwr sy'n achosi llid ar y galon, ysgyfaint, iau, arennau a'r cymalau - cyn i'w harennau fethu yn 2016.
Er iddi gael triniaeth dialysis, cafodd wybod yn 2019 ei bod hi'n bosib mai ond pum mlynedd oedd ganddi i fyw os na fyddai'n cael trawsblaniad.
Cwrdd ar hap yn Y Barri
Roedd Lucy, 44, a'i phartner Cenydd Owen, 49, o Gaerffili wedi prynu cerbyd gwersylla er mwyn mynd â'u cŵn - Jake ac Indie - i ffwrdd am benwythnosau.
Ond gyda Lucy'n derbyn triniaethau, cafodd tripiau eu gohirio - gan gynnwys deuddydd yn Aberystwyth yr oedden nhw wedi bwriadu ei gymryd ym mis Mehefin 2021.
Yn hytrach, felly, fe aethon nhw i draeth Cold Knap yn Y Barri ym Mro Morgannwg.
Ar ôl parcio'u cerbyd gwersylla gerllaw a dechrau barbeciw, fe sylweddolodd Lucy bod un o'r cŵn yn mynd at ddynes "tua 100 llath i ffwrdd".
"Roedd hi'n cario 'mlaen mynd 'nôl a 'mlaen iddi ac roedden ni'n ei galw hi 'nôl, achos yn amlwg mae Doberman mawr yn gallu bod tamaid bach yn ofnus," meddai.
"Yn y diwedd fe aethon ni draw i ymddiheuro iddi."
Y person dieithr hwnnw oedd Katie Jones, 40, o'r Barri, oedd yn eistedd ar y traeth yn gwneud gwaith crosio.
Ar ôl deall nad oedd ganddi hi broblem gyda'r ci, fe wnaeth Lucy a Cenydd ei gwahodd i ymuno gyda nhw i gael barbeciw.
"Daeth hi draw, dod â'i diod gyda hi, a chynnig peth i mi," meddai Lucy.
"Esboniodd Cenydd mod i methu yfed gan 'mod i ar dialysis. Fe wnaeth hi ofyn pam, a dywedodd 'mod i'n aros am drawsblaniad aren."
Grŵp Whatsapp yr aren
Ar ôl clywed hynny, esboniodd Katie ei bod hi newydd ymuno â'r rhestr trawsblaniadau aren - a'i bod hi'n barod i roi un i "bwy bynnag oedd eisiau un".
Fe wnaeth Katie a Lucy gymryd manylion cyswllt ei gilydd a chysylltu gyda chydlynydd rhoi organau y diwrnod wedyn.
"Fe gymerodd hi'r profion i gyd ac fe ddaethon nhw 'nôl yn nodi ei bod hi'n match perffaith," meddai Lucy.
"Dywedodd llawfeddyg wrthon ni mai siawns un mewn 22 miliwn oedd ffeindio'r match perffaith, a dyna oedd ei angen arna' i oherwydd bod gen i lupus."
"Fe gymerodd y trawsblaniad ychydig o amser, oherwydd Covid, felly roedd e'n cario 'mlaen cael ei ohirio," ychwanegodd.
Wrth iddyn nhw i gyd aros, fe wnaeth Katie sefydlu grŵp ar Whatsapp o'r enw The Kidney Gang.
"Bob tro roedd hi'n mynd i'r ysbyty roedd hi'n rhoi gwybod i ni sut oedd pethau, ac anfon negeseuon a lluniau," meddai Cenydd.
"Mae gen i'r recordiadau i gyd o hyd, pa mor gyffrous oedd hi ei bod hi'n gwneud rhywbeth da. Mae e jyst yn anghredadwy bod rhywun hollol ddieithr wedi rhoi bywyd Lucy yn ôl iddi."
'Wastad gobaith'
Fe ddigwyddodd y trawsblaniad ar 3 Hydref 2022 yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ac ers hynny mae Lucy yn gwella.
"Dwi'n teimlo'n lwcus iawn 'mod i wedi dod i 'nabod Lucy, fod e wedi gweithio a bod hi mas yna'n byw ei bywyd," meddai Katie.
"I fi, does dim ochr negyddol i'r peth o gwbl.
"Fi'n teimlo cywilydd weithiau pan fi mas gyda Mam-gu ac mae'n dweud wrth berson dieithr 'mae fy wyres i wedi rhoi aren'.
"Ond hwn yw'r peth gorau 'dw i erioed wedi gwneud, dwi'n teimlo mor falch o fy hun ac mae fy nheulu'n falch ohona i."
Gyda Lucy wedi bod yn aros am flynyddoedd am drawsblaniad, mae hi'n ddiolchgar iawn hefyd i ddyfalbarhad ei chi.
"Roedd e fel bod Indie bron wedi gweithio hi mas a'i dewis hi," meddai.
"Mae'r trawsblaniad wedi newid fy mywyd i'n barod."
Ychwanegodd Cenydd: "Rydyn ni eisiau dangos bod wastad gobaith i bobl. Peidiwch rhoi lan, achos chi byth yn gwybod.
"Doedden ni ddim hyd yn oed am fynd i'r traeth y diwrnod yna. Mae llawer o bobl dda mas yna."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2023