Y bocsiwr o Gymru, Joe Cordina, yn adennill teitl byd

  • Cyhoeddwyd
Joe Cordina'n dathluFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r bocsiwr o Gymru, Joe Cordina, wedi adennill ei deitl Uwch Bwysau Plu y Byd mewn gornest yn erbyn y cyn-bencampwr, Shavkatdzhon Rakhimov.

Fe gafodd y teitl ei dynnu oddi wrth Cordina, 31, y llynedd ar ôl iddo dorri ei law.

Fe dynnodd Cordina Rakhimov i'r llawr yn yr ail rownd ond fe gafodd ei herio gan gryfder y bocsiwr o Tajikistani hyd y diwedd.

Ond ar ôl 10 mis o absenoldeb, roedd Cordina yn benderfynol o brofi ei ddawn, a dyna a wnaeth adref yng Nghaerdydd nos Sadwrn.

"Mae e'n ymladdwr caled ond ro'n ni'n teimlo na allai unrhyw un fy nhrechu heno," dywedodd Cordina.

"Fe wnaeth fy nal gydag ergydion da. Dw i'n ffit, dw i wedi bod yn gweithio'n galed a doedd dim ffordd y byddai'n fy nhrechu, dim siawns."

Pynciau cysylltiedig