Wrecsam: Dyn wedi marw ar ôl cael ei daro gan gar
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 60 oed wedi marw ar ôl cael ei daro gan gar yn ardal Cefn-mawr ger Rhiwabon, Wrecsam.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r Stryd Fawr ger cyffordd Lôn y Brenin tua 01:00 fore Sul.
Bu farw'r dyn, oedd yn cerdded ar y pryd, yn y fan a'r lle.
Mae dyn 51 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal. Mae'n parhau yn y ddalfa.
Mae teulu'r dyn fu farw wedi cael gwybod ac mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth.