Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Ffrainc 39-14 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Elinor Snowsill yn chwarae i GymruFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Gwnaeth Elinor Snowsill drosi ddwywaith i Gymru yn yr ail hanner

Cafodd Ffrainc fuddugoliaeth ddigon cyfforddus yn erbyn Cymru ddydd Sadwrn er i'r Cochion ymateb yn gryfach yr ail hanner.

Dechreuodd y gêm yn ddigon siomedig i Gymru gyda Romane Menager yn sgorio cais i'r Ffrancwyr lai na dwy funud i mewn i'r gêm, gyda Jessy Tremouliere yn trosi'n llwyddiannus.

Daeth ail gais y Ffrancwyr rhai munudau wedyn gyda chic ar draws y cae gan Tremouliere yn arwain at gais gan Gaelle Hermet.

Yn y 19eg munud, aeth Cymru i lawr i 14 chwaraewr ar ôl i Sioned Harries dderbyn carden felen.

Gwnaeth dau gais arall gan yr asgellwr Melissande Llorens roi Ffrainc ar y blaen o 29-0 a sicrhau'r pwynt bonws i'r tîm cartref wrth i'r hanner cyntaf ddod i ben.

Yn yr ail hanner, fe wnaeth Ffrainc ychwanegu eto at eu sgôr yn gyflym gyda'r blaenasgellwr Charlotte Escudero yn croesi'r llinell am gais.

Bethan Lewis on the charge for WalesFfynhonnell y llun, Huw Evans agency
Disgrifiad o’r llun,

Mi fydd Cymru'n mynd ymlaen i wynebu'r Eidal wythnos nesaf

Georgia Evans lwyddodd i roi'r pwyntiau cyntaf ar y bwrdd i Gymru, gan groesi'r llinell wedi 52 munud, gydag Elinor Snowsill yn trosi am y saith pwynt.

Funudau'n ddiweddarach, fe ddaeth cais arall gan y prop Gwenllian Pyrs a throsiad hefyd.

Ond Ffrainc gafodd y gair diwethaf wedi i Rose Bernadou groesi'r llinell gyda munudau i fynd tan ddiwedd y gêm.

Mae Cymru'n parhau yn y trydydd safle ac mi fyddan nhw'n wynebu'r Eidal wythnos nesaf ar gyfer eu gêm olaf yn y Bencampwriaeth.

Pynciau cysylltiedig