Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Yr Alban 22-34 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Caity Mattison of Scotland juggles the ball as she is tracked by Alex Callender of WalesFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Alex Callender o Gymru yn herio Caity Mattison o'r Alban

Roedd yna fuddugoliaeth arall i Gymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad nos Sadwrn a hynny wedi iddyn nhw drechu'r Alban oddi cartref o ddeuddeg pwynt.

Cymru a sgoriodd gyntaf gyda Sisilia Tuipulotu yn sgorio cais wedi pum munud ac ar hanner amser roedd Cymru ar y blaen o ddau bwynt (10-12) wedi cais gan Gwenllian Pyrs a throsiad llwyddiannus Keira Bevan.

Wedi 40 munud 14 oedd yn nhîm Cymru wedi i Kerin Lake gael cerdyn melyn.

Helen Nelson a sgoriodd driphwynt cyntaf yr Alban ac fe ddaeth eu cais nhw 35 munud i fewn i'r gêm wrth i Lana Skeldon groesi'r llinell - unwaith eto fe wnaeth Nelson gicio yn llwyddiannus.

Roedd yna ddechrau arddechog i Gymru yn yr ail hanner wrth i Gwenllian Pyrs sgorio cais arall ac wedi i Keira Bevan drosi'n llwyddiannus roedd y sgôr yn 10-19.

Ond o fewn pum munud roedd yna gais i'r Alban - Coreen Grant y tro hwn ac wedi cic lwyddiannus, dau bwynt oedd yn gwahanu'r ddau dîm eto.

Ond nid dyna ddiwedd y sgorio - wedi 54 munud roedd yna bwynt bonws i Gymru yn sgil cais arall i Sisilia Tuipulotu (17-24).

Doedd yr Alban ddim am ildio a saith munud wedi'r awr dyma Chloe Rollie yn sgorio cais ardderchog i'r tîm cartref (22-24) ond trosiad y Cymry a'r Albanwyr yn aflwyddiannus.

Wedi 74 munud roedd yna groeso mawr ymhlith y cochion i gic Elinor Snowsill wrth iddi ymestyn mantais Cymru o saith pwynt (17-24) ac o fewn chwe munud roedd yna bumed cais i Gymru - cais gwych gan Ffion Lewis.

Wedi cic arall lwyddiannus gan Snowsill roedd y sgôr yn 22-34 a dyna oedd y sgôr terfynol.

Pynciau cysylltiedig