Trefynwy: Cyngor sir 'yn araf' i sefydlu ysgol Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Plant ysgol gynraddFfynhonnell y llun, PA Media

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi bod yn araf i roi "cefnogaeth lawn a llwyr" i sefydlu ysgol gynradd Gymraeg yn Nhrefynwy, yn ôl ymgyrchwyr.

Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn y dref ddydd Mawrth fel rhan o broses ymgynghori ar y posibilrwydd.

Mae'r mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RhAG) yn cefnogi'r syniad ac yn croesawu'r ymgynghoriad.

Ond dywedodd aelod blaenllaw ei bod hi'n bryd gweithredu yn dilyn "blynyddoedd lawer" o drafod.

Mae'r cyngor wedi cael cais am ymateb.

Diffyg tir addas

Fe gytunodd aelodau cabinet y cyngor ym mis Ionawr i gynnal proses ymgynghori statudol ar gynnig i sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn Nhrefynwy, ac mae'r broses honno'n parhau tan 15 Mai.

Mae'r cyngor yn cydnabod "nad oes darpariaeth gynradd Gymraeg ar gael yng ngogledd ddwyrain Sir Fynwy ar hyn o bryd".

Dwy ysgol gynradd Gymraeg sydd yn Sir Fynwy ar hyn o bryd - Ysgol Gymraeg y Fenni yng ngogledd y sir, ac Ysgol Gymraeg y Ffin, Cil-y-coed, yn y de.

Bu'n rhaid cynyddu capasiti Ysgol Gymraeg y Fenni i 317, a dan gynnig i'w hadleoli i safle newydd ym Medi 2024 fe allai'r nifer yna godi i 420.

Mae gwaith yn mynd rhagddo i adnewyddu ac ehangu Ysgol Gymraeg y Ffin i greu lle ar gyfer 210 o ddisgyblion a chael y Cylch Meithrin ar y safle.

Ond mae'r cyngor, serch "gwaith sylweddol yn ystod y tair blynedd ddiwethaf", wedi methu â sicrhau lleoliad addas ar gyfer ysgol gynradd Gymraeg newydd yn ardal Trefynwy "oherwydd diffyg tir ar gael neu dir addas".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Gymraeg Y Fenni yn ffynnu ac wedi ehangu eisoes ers ei hagor

O'r pum opsiwn sy'n cael eu rhestru yn yr ymgynghoriad, dolen allanol, mae'r awdurdod yn ffafrio defnyddio'r adeiladau presennol ar safle Ysgol Gynradd Overmonnow "i sefydlu ysgol gynradd Gymraeg egin a darpariaeth blynyddoedd cynnar a gofal plant".

Y cynnig yw sefydlu'r ysgol gynradd Gymraeg egin ar safle'r ysgol Saesneg o Fedi 2024, ac i sefydlu dosbarth ategol cyfrwng Cymraeg yno o fis Medi eleni, dan arweiniad Ysgol Gymraeg y Ffin.

Fe fyddai'r ysgol yn agor i ddechrau gyda disgyblion dosbarth meithrin, derbyn a blwyddyn 1.

Byddai'r disgyblion sy'n mynychu'r dosbarth ategol yma'n trosglwyddo'n awtomatig wedyn i'r ysgol newydd.

'Siarad am hyn ers blynyddoedd'

"Mae'n galondid i ni wrth gwrs bod yna ymgynghoriad yn digwydd," dywedodd Elin Maher, Cyfarwyddwr Cenedlaethol RhAG ar raglen Dros Frecwast.

"Mae'n benllanw gwaith blynyddoedd lawer gan bobl leol."

Mae Sir Fynwy, meddai, yn eang ac "yn ddaearyddol anodd" gyda phoblogaethau "wedi eu cywasgu" yn y trefi, yn enwedig Y Fenni, sy'n denu mwy o bobl a datblygiadau tai yn sgil dileu'r tollau i groesi Pont Hafren.

Ond mae'n bwysig, meddai, bod addysg Gymraeg "o fewn pellter hygyrch" i deuluoedd mewn tref mor "arwyddocaol" â Threfynwy, ac i ddisgyblion gael "profiade' dwyieithog o'r blynyddoedd cynnar".

Ffynhonnell y llun, Elin Maher
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna wir awydd i sicrhau addysg gynradd Gymraeg yn Nhrefynwy, medd Elin Maher

"Mae'n dipyn o beth i ofyn i rieni i deithio o ardal Trefynwy i'r Fenni," dywedodd. "Mae 'na nifer o rai pybyr iawn yn gwneud yn barod... Mae 'na wirioneddol awydd o fewn y cymunede' i fod yn cefnogi'r ysgol newydd hon heno."

Gan gydnabod y prinder llefydd addas i godi ysgol newydd yn Nhrefynwy, mae Ms Maher yn galw ar y cyngor i wneud y mwyaf o'r adnoddau a'r strwythurau presennol "i ni gael gweld yr ysgol hon yn agor cyn gynted".

Ond mae hi'n gresynu bod hi'n cymryd mor hir i ymgyrchwyr gael y maen i'r wal. "Ni wedi bod yn siarad am hyn ers blynyddoedd," meddai.

"Tra bod ni'n falch iawn ac yn mo'yn cydweithio gyda [Chyngor] Sir Fynwy ar y cynllun hwn, y'n ni jyst yn teimlo bod y sir ychydig bach yn araf yn rhoi eu cefnogaeth lawn a llwyr tu ôl i hyn ar hyn o bryd, gyda chynnig sydd o bosib ddim yn ddelfrydol.

"Ond mae'n rhaid mynd gyda'r sefyllfa sydd ohoni a brwydro 'mlaen."

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cael cais gan BBC Cymru am ymateb.

Pynciau cysylltiedig