Gwrthod un ysgol fawr cyfrwng Saesneg ym Mhontardawe
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi penderfynu peidio bwrw ymlaen â'r cynllun dadleuol i gau tair ysgol gynradd er mwyn adeiladu un ysgol fawr cyfrwng Saesneg ym Mhontardawe.
Roedd gwrthwynebwyr i'r cynllun, sydd wedi bod yn destun adolygiad barnwrol ar ôl iddo gael ei gymeradwyo yn wreiddiol gan y cyngor sir, yn dadlau y byddai cau ysgolion cynradd pentrefi Godre'r Graig, Alltwen a Llangwig wedi tynnu plant o ysgol gyfrwng Gymraeg ym Mhontardawe i'r ysgol newydd yno.
Byddai'r ysgol newydd wedi bod yn ddigon mawr i dros 750 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ac wedi costio tua £22m.
Fe fyddai'n cynnwys pwll nofio ac uned i addysg arbennig.
Roedd mudiad dros addysg Gymraeg, RhAG, yn poeni y gallai rhieni ddewis anfon eu plant yno yn hytrach nag i'r ysgol Gymraeg leol.
Dywedodd Elin Maher, cyfarwyddwr cenedlaethol RhAG: "Ni'n hynod o falch o'r penderfyniad heddi ac yn ddiolchgar iawn i'r cabinet am 'neud penderfyniad dewr iawn - oherwydd mae, wrth gwrs, yn mynd yn erbyn yr hyn yr oedd swyddogion wedi ei argymell.
"Yn bendant mae hwn yn ddiwrnod cadarnhaol iawn i'r gymuned.
"Mae'n ddiwrnod da. Mae sawl ymgyrchydd wedi gweithio yn galed iawn dros y blynyddoedd d'wetha er mwyn sicrhau hyn.
"Rydyn ni nawr am weld fod yr iaith Gymraeg yn cael ei chefnogi a'i datblygu ym Mhontardawe a'r ardal leol."
Un arall sydd wedi bod ar flaen y gad yn gwrthwynebu'r cynllun yw Sioned Williams - yr aelod lleol yn Senedd Cymru.
"Mae'r penderfyniad heddi, wrth gwrs, wedi bod wrth fy modd," meddai.
"'Dw i ynghyd â'r gymuned leol yma yng Nghwm Tawe wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn y cynllun annerbyniol ac annoeth yma ers blynyddoedd.
"Ma' fe'n wych bod terfyn unwaith ac am byth wedi cael ei roi ar y cynllun."
Yn ôl y Cynghorydd Alun Llewelyn, dirprwy arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y cam nesaf yw trafod y ffordd ymlaen.
Ar ddiwedd y cyfarfod dywedodd: "Mae heddi wedi bod yn garreg filltir o ran y penderfyniad ond bydd angen i'r trafodaethau bara nawr o fewn y cyngor.
"Byddwn ni fel aelodau yn trafod gyda swyddogion beth yw'r ffordd ymlaen - felly bydd dim atebion cyflym iawn.
"Bydd angen cymryd peth amser i edrych ar y ffordd ymlaen ac wrth gwrs bydd eisaiu trafod hefyd gyda Llywodraeth Cymru."
Doedd Llywodraeth Cymru ddim am wneud sylw ar y mater.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2022