Cloi ysgol ar ôl i gerrig gael eu taflu at athrawon

  • Cyhoeddwyd
Ysgol y CreuddynFfynhonnell y llun, Eirian Evans/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol y Creuddyn yn ysgol uwchradd cyfrwng Gymraeg ym Mae Penrhyn, ger Llandudno

Mi fuodd ysgol uwchradd yn y gogledd o dan glo brynhawn Mawrth wedi i gerrig gael eu taflu at athrawon.

Cafodd disgyblion yn Ysgol y Creuddyn, ger Bae Penrhyn yn Sir Conwy, eu cadw i mewn yn ystod amser cinio ar ôl i lanciau o ysgol arall ddechrau taflu cerrig a chaniau at athrawon.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru "Cawsom ein galw am 12.06 yn dilyn adroddiadau fod grŵp o lanciau yn taflu cerrig a chaniau ac yn ymddwyn yn sarhaus ar lafar tuag at staff.

"Roedd swyddogion yn bresennol ond roedd y llanciau, nad oedd yn ddisgyblion yn yr ysgol, wedi gadael.

"Fodd bynnag, mae ein hymchwiliadau i'r digwyddiad hwn yn parhau."

'Ymddygiad heriol a bygythiol'

Derbyniodd rhieni e-bost gan yr ysgol yn eu hysbysu bod y llanciau wedi bygwth staff.

Nodwyd yn yr e-bost: "Dyma neges i'ch gwneud chi'n ymwybodol bod yn rhaid i ni wneud y penderfyniad i beidio â chaniatáu i ddysgwyr fynd allan ar gae'r ysgol amser cinio heddiw.

"Fe wnaethom y penderfyniad fel rhagofal oherwydd bod grŵp o ddysgwyr o ysgolion uwchradd eraill yr ardal wedi gwneud ymdrech i ddod ar dir yr ysgol cyn amser cinio ac wedi arddangos ymddygiad heriol a bygythiol tuag at aelodau o staff Ysgol y Creuddyn.

"Roeddem hefyd yn ymwybodol bod y grŵp hwn o bobl ifanc wedi bod yn rhan o ddigwyddiad brynhawn ddoe a bod yr heddlu'n gysylltiedig."

Ychwanegodd yr ysgol: "Rhaid canmol ymddygiad ac agwedd aeddfed ein plant a'n pobl ifanc yn eu cydweithrediad parod wrth i ni asesu a delio gyda'r risg posib yma.

"Hoffem bwysleisio, wrth gloi, fod pawb yn iawn ac yn ddiogel yn yr ysgol ac y bydd gwersi'n parhau fel arfer y prynhawn yma [dydd Mawrth]."

Mae cais wedi cael ei wneud i Gyngor Sir Conwy ac Ysgol y Creuddyn am sylw.

Pynciau cysylltiedig