'Mor bwysig cynnwys pobl sydd â Syndrom Down'

  • Cyhoeddwyd
ErinFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Erin yn chwech oed, ac mae ganddi Syndrom Down

"Mae hi mor bwysig fod pobl sydd â Syndrom Down yn cael eu cynnwys ymhob agwedd o gymdeithas," medd Non Edwards o Bumsaint ger Llanbed.

Daw ei sylwadau wrth i gwmni teganau Mattel o'r Unol Daleithiau gynhyrchu dol sydd â Syndrom Down mewn ymgais i fod yn fwy cynhwysol.

Mae Erin, merch Non a Carwyn Edwards, bellach yn chwech oed ac mae'n hynod bwysig "fod plant fel Erin sydd â Syndrom Down yn cael eu cynnwys ym mhopeth", meddai ei mam wrth siarad â Cymru Fyw.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Erin gyda'i rhieni, Carwyn a Non

"Fe fydda i'n bendant yn prynu'r ddol yma iddi," meddai Ms Edwards.

"Pan oeddwn i'n fach ro'dd dol Barbie â ffigwr ffantastig, coesau hir a gwallt melyn - ond dyw rhan fwyaf o ferched ddim yn edrych fel yna wrth gwrs.

"Yn ddiweddar mae 'na Barbie sydd mewn cadair olwyn, un arall gyda choes prosthetig ac un â chymorth clyw - mae hyn yn ddatblygiad pwysig fel bod pob plentyn os ydyn nhw'n dymuno yn cael chwarae gyda rhywun tebyg iddyn nhw eu hunain ac yn dod i wybod mwy am gymdeithas.

"Mae hi mor bwysig codi ymwybyddiaeth."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Mae nifer o rieni i blant sydd â Syndrom Down yn dweud hefyd ei bod hi mor bwysig dathlu genedigaeth eu plant.

"Roeddwn i'n gwybod cynt bod Erin â'r cyflwr ac felly wedi paratoi rhywfaint drwy holi rhiant arall ac roedd hynny yn help mawr," ychwanegodd Ms Edwards.

'Pleser pur'

Ond i Laura Howard roedd genedigaeth ei mab Tomos yn brofiad negyddol.

"Doeddwn i ddim yn gwybod cynt ac roedd y cyfan yn eitha' negyddol rhywsut, er na ddylai fod wedi bod," meddai.

"Doeddwn i ddim yn siŵr ar y dechrau a oedd e'n blentyn â Syndrom Down neu beidio, ond fe wnaeth prawf gwaed gadarnhau hynny ac hefyd fe ddangosodd y prawf bod ganddo salwch difrifol.

"Felly heblaw am y prawf mae'n bosib y bydden i wedi cyrraedd adref ac y bydden ni wedi ei golli - i ni roedd cael y prawf yn beth da.

"Ond rywsut roedd yna negyddiaeth ynghlwm wrth y cyfan. Yr hyn ges i wrth adael yr ysbyty oedd amlen frown yn rhoi syniad i ni o ba broblemau y gallai Tomos eu hwynebu.

"Roedd rhyw elfen o alar - doedd e ddim yn brofiad hapus o gwbl ac roedd e fel petai ni ddim i fod i ddathlu ei eni.

"Roedden ni fod i gredu bod dyfodol trafferthus o'i flaen - ond yn wir, nid dyna'r profiad. Mae rhywun yn addasu ac mae bod yn fam iddo yn bleser pur."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bleser pur bod yn fam i Tomos, medd Laura Howard

Wedi iddi hi a dwy fam arall i blant sydd â Syndrom Down gael profiadau negyddol fe sefydlon nhw elusen Seren Dwt, sy'n rhoi cymorth a chefnogaeth i rieni plant sydd â'r cyflwr.

Pan fydd plentyn â Syndrom Down yn cael ei eni maen nhw bellach yn cael bocs sy'n dathlu'r geni ac yn cynnig pob math o gwnsela a chefnogaeth.

"Mae hi mor bwysig nodi nad yw dyfodol y plentyn yn mynd i fod yn drafferthus ac mae'n bwysig eu derbyn fel aelodau llawn o gymdeithas," ychwanegodd Ms Howard.

"Falle bod ein siwrne ni fel rhieni bach yn wahanol ar adegau - ond mae hi dal yn siwrne ac ry'n yn dangos ein cariad mewn ffordd wahanol.

"Yn sicr mae cael dol â Syndrom Down yn beth i'w groesawu yn fawr iawn - mae hi mor bwysig cynnwys pawb."

Ffynhonnell y llun, Mattel
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth cwmni Mattel gydweithio â chymdeithas Syndrom Down yr Unol Daleithiau i greu y ddol newydd

Mae elusen Seren Dwt yn cynnig dau flwch gwahanol - un i ogledd Cymru a'r llall i'r de.

"Ry'n am sicrhau bod gwybodaeth am bob math o gefnogaeth leol sydd ar gael a'r peth mwyaf yw bod yr holl brofiad yn un positif," meddai Ms Howard.

"Yn amlwg ry'n ni wedi symud ymlaen lot - dyw'n plant bellach ddim yn gorfod mynd i ysgol arbenigol ond mae'n bwysig nad oes gan gymdeithas unrhyw agwedd negyddol.

"Mae hi mor bwysig cynnwys pobl sydd â Syndrom Down ym mhob dim."