Syndrom Down: Ymchwil dwyieithrwydd yn 'hwb' i deuluoedd
- Cyhoeddwyd
Mae teuluoedd wedi croesawu casgliadau ymchwil sydd newydd ei gyhoeddi gan Brifysgol Bangor, sy'n pwysleisio nad ydy dwyieithrwydd yn anfantais i blant sydd â syndrom Down.
Mae'r canfyddiadau'n chwalu'r gred flaenorol y gallai cysylltiad â dwy iaith achosi problemau i blant sydd â syndrom Down.
Ymhlith y rhai sydd wedi gweld manteision addysg ddwyieithog ydy rhieni Rhys Williams, sy'n 22 oed ac â syndrom Down.
Roedd Marcus ac Angela Williams yn teimlo'n gryf ynghylch addysgu Rhys yn y ddwy iaith gan fod Angela yn dod o Loegr a'r Gymraeg a'r Saesneg, felly, yn rhan naturiol o'r aelwyd yng Nghwm Dulais, ger Castell-nedd.
Ond doedd o ddim yn benderfyniad hawdd iddyn nhw ac fe gawson nhw gyngor gan arbenigwyr ar y pryd i gadw at un iaith, gan awgrymu y byddai'n gwneud pethau'n haws i Rhys.
Fel yr esbonia Marcus Williams, mi ffynnodd Rhys wrth fynd i'w ysgol leol a chael dysgu'r ddwy iaith.
"Mae cymaint o bobl yn dweud wrthoch chi, geith e ddim siarad dwy iaith, bydd e'n anfantais iddo fe drio gwneud hynny," meddai.
"Beth oedd yn hwb i ni oedd bod ffrindiau ni yn byw yn y pentref oedd gyda mab oedd â syndrom Down, oedd e wedi tyfu lan mewn tŷ dwyieithog ac yn hollol hyfyw yn yr iaith Gymraeg a'r Saesneg.
"Cychwynnon ni yn fanna mewn gwirionedd, yn y tywyllwch, yn erbyn y math o gyngor oedd yn cael ei roi mas yna."
'Dim anfantais i ddwyieithrwydd'
Rŵan mae casgliadau prosiect arloesol, sydd newydd ei gyhoeddi gan Brifysgol Bangor, yn atgyfnerthu dewis y teulu.
Trwy gymharu datblygiad iaith plant gyda syndrom Down sy'n siarad Cymraeg a Saesneg gyda rhai uniaith Saesneg, fe ddaeth ymchwilwyr i'r casgliad nad oes anfantais i ddwyieithrwydd a bod y sgiliau iaith yn debyg.
Dyma'r tro cynta' i ymchwil grŵp gael ei gynnal yn y maes yn y Deyrnas Unedig - a Rhys a'i deulu wedi cyfrannu at y gwaith.
Ychwanegodd Marcus Williams: "Mae'r ymchwil sydd wedi mynd mewn i hwn jyst yn atgyfnerthu'r peth fi'n credu, beth y'n ni wedi ffeindio yn ymarferol mewn ffordd naturiol.
"Ma' Rhys erbyn hyn yn 22 oed a ma'r gwaith ymchwil yma'n rhoi hwb i rieni eraill i gario 'mlaen fel bydden nhw mewn unrhyw sefyllfa arall.
"O'dd chwaer Rhys yn siarad ag e a'n dweud tase fe heb fynd i'r ysgol leol, falle bydde fe a hi ddim wedi mynd i'r un ysgol. Bydde fe wedi bod mas o'r gymuned leol.
"Addysg - ma' hwnnw'n gorffen wrth gwrs pan mae'r plentyn yn 16 oed. Ond ma' nhw'n gorfod mynd 'nôl i'w cymunedau wedyn. Dyna'r penderfyniadau oedd yn wynebu ni.
"Roedd y ddwy ysgol yn ein hachos ni, Ysgol Gymraeg Blaen Dulais ac Ysgol Gymraeg Ystalyfera, yn bositif iawn o ran cynnwys Rhys ym mhopeth.
"Y sioe gerdd yn yr Eisteddfod, o'dd e wedi cymryd rhan yn hwnna. Roedd yr athrawes ddrama ar y pryd yn benderfynol bod e'n cymryd rhan ym mhob agwedd. Mae wedi cael pob cyfle ac wedi elwa'n fawr iawn."
Mae'r ymchwil yn rhan o waith Dr Rebecca Ward, ymchwilydd ar ddechrau ei gyrfa yn Adran Ieithyddiaeth Prifysgol Bangor, a ddywedodd: "Mae'n wych cael rhannu'r canfyddiadau'r ymchwil cadarnhaol hwn.
"Gobeithiwn y gall hyn arwain at symud tuag at ddull mwy cynhwysol lle mae dwyieithrwydd yn y cwestiwn, a bydd yn gefn i benderfyniadau teuluoedd i fynd ar drywydd dwyieithrwydd hyd yn oed os byddant yn wynebu ansicrwydd gan eraill."
'Effaith wirioneddol ar fywydau pobl'
Yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y Journal of Communication Disorders, yw'r astudiaeth grŵp gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ymchwilio i ddwyieithrwydd mewn plant â syndrom Down, ac un o'r ychydig astudiaethau rhyngwladol.
Esboniodd Dr Eirini Sanoudaki, uwch ddarlithydd mewn ieithyddiaeth, a fu'n arwain y prosiect: "Mae'n fraint cael arloesi yn y maes ymchwil hwn, a chael effaith wirioneddol ar fywydau pobl.
"Roedd teuluoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol yn ansicr cyn hyn oherwydd diffyg tystiolaeth am ddwyieithrwydd.
"Rydw i wedi bod yn derbyn negeseuon o Gymru ac ar draws y byd yn gofyn am gyngor; mae'r canlyniadau cadarnhaol yn cynnig rhywfaint o'r sicrwydd sydd ei angen."
Bydd ymchwilwyr Prifysgol Bangor rŵan yn troi eu sylw at gymharu datblygiad dwyieithrwydd mewn plant awtistig sydd â syndrom Down a rhai sydd heb, gyda'r nod o roi mwy o sicrwydd i deuluoedd wrth benderfynu dilyn llwybr dwyieithog ai peidio.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2018