Arian yn ôl i gefnogwr wedi gwall gan gwmni awyren
- Cyhoeddwyd
Mae un o gefnogwyr tîm pêl-droed Cymru wedi dweud ei fod yn teimlo'n "hapus ac emosiynol" wrth gael gwybod y bydd yn cael ei arian yn ôl, ar ôl talu dros £900 yn ychwanegol i hedfan adref o Croatia oherwydd gwall technegol yn y systemau wrth iddo hedfan yno.
Roedd Ieuan Davies, 56, o Langefni ar Ynys Môn wedi hedfan i Croatia o Fanceinion heb unrhyw drafferth ar 24 Mawrth i wylio Cymru yng ngemau rhagbrofol Euro 2024.
Ond pan geisiodd ddod yn ôl ar 26 Mawrth, dywedwyd wrtho gan gwmni Lufthansa bod ei docyn wedi cael ei werthu "am nad oedd wedi hedfan i Croatia".
Bu'n rhaid iddo brynu'r unig sedd oedd ar ôl ar awyren a fyddai'n sicrhau ei fod yn cyrraedd gogledd Cymru erbyn bore Llun - sef tocyn dosbarth busnes gyda chwmni Air France.
'Andros o her'
Roedd Mr Davies eisoes wedi cael ei arian yn ôl gan gwmni Lufthansa am y daith yn ôl y methodd fynd arni, ac mae bellach wedi cael gwybod y bydd yn cael iawndal am y swm ychwanegol y bu'n rhaid iddo ei dalu i hedfan adref, gyda chwmni Croatia Airlines wedi ymddiheuro am y "digwyddiad anffodus".
Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd Mr Davies bod y gwaith o gasglu tystiolaeth er mwyn ceisio cael ei arian yn ôl wedi bod yn "andros o her", ac mae eisiau diolch i bawb sydd wedi ei helpu gyda'i achos.
"O'r negeseuon cynta o'n i'n gael yn ôl doedd o ddim yn swnio fel bo fi'n mynd i lwyddo.
"Be oedd yn pryderu fi fwyaf oedd gen i ddim tystiolaeth o boarding pass achos odd o di cael ei chwalu, ond dwi'n meddwl bo fi wedi cael tystion anhygoel...
"Lwcus nes i gadw'r google tracker ar, odd gen i bob math o receipts, lluniau, 'nes i jest taflu bob peth odd gen i, 'nes i roi eglurhad fy hun o be on i'n meddwl odd wedi digwydd, ond odd o'n lot o waith, a rhaid i chi gofio odd o'n bron i £1,000," ychwanegodd.
Mae hefyd yn credu bod y sylw y mae ei achos wedi ei gael yn y wasg a'r cyfryngau wedi bod o gymorth i gael ad-daliad.
'Achos eithriadol'
Mewn ebost at Mr Davies, mae cwmni Croatia Airlines, oedd â chyfrifoldeb rheoli'r hediad y methodd deithio adref arni, yn egluro bod yna nam wedi bod gyda'r system rheoli ymadawiadau (Departure Control System), oedd ddim yn rhan o'u cyfrifoldeb nhw, ac na chafodd ei gerdyn ei wirio wrth iddo gamu ar yr awyren ym Manceinion.
Roedd hynny yn golygu ei fod yn cael ei ystyried fel teithiwr oedd ddim wedi mynd ar yr awyren honno.
Mae Croatia Airlines hefyd yn dweud bod hwn yn achos nad ydyn nhw erioed wedi ei brofi o'r blaen, gan ychwanegu: "Rydym unwaith eto eisiau cyfleu ein hedifeirwch am y digwyddiad anffodus hwn, ac rydym yn gobeithio y byddwch yn edrych ar y profiad hwn fel digwyddiad eithriadol."
Wrth ddweud y bydd yn dathlu'r ffaith ei fod yn cael ei arian yn ôl, mae Mr Davies yn dweud bod y ffaith nad oedd cofnod ei fod ar yr awyren i Croatia yn codi pryderon mawr am ddiogelwch.
Mae'n dweud hefyd ei fod wedi dysgu pa mor bwysig ydi cadw pob manylyn wrth deithio.
"Dwi'n meddwl mai'r neges ynghanol hyn ydi, pan fydda i yn fflio eto, be dwi wedi bod yn lwcus ydi nes i gadw digon o betha'.
"Tro nesa fydda i'n mynd ar awyren wnai ofyn dair gwaith, 'ydach chi wedi sganio fi'?'.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2023