Cwpan Her Ewrop: Scarlets 17-35 Glasgow

  • Cyhoeddwyd
Dathlu cais Steff EvansFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr y Scarlets yn dathlu cais Steff Evans

Mae'r Scarlets wedi methu â chyrraedd rownd derfynol Cwpan Her Ewrop wedi i Glasgow Warriors eu trechu ar Barc y Scarlets.

Roedd tîm Dwayne Peel ar y blaen ar adegau ond roedd yn rhaid ymdopi ag anafiadau i bedwar o'r chwaraewyr ac roedden nhw'n un dyn yn brin am gyfnod hefyd wedi trosedd.

Roedd yna ymdrech arwrol i daro'n ôl yn chwarter olaf y gêm ond Glasgow gafodd y gair olaf wrth sgorio'u pumed cais.

Glasgow gafodd y dechrau gorau - o fewn pum munud oedd Stafford McDowall wedi sgorio cais a George Horne wedi trosi.

O fewn munudau roedd y prop pen tynn Javan Sebastian a'r canolwr Johnny Williams wedi gorfod gadael y maes ar ôl anaf - yn ei ben, yn achos Williams, sydd wedi bod yn chwaraewr mor allweddol y tymor yma.

Yr hyn a ddilynodd oedd cyfnod o chwarae digon blêr a di-batrwm gan y ddau dîm, ac fe fethodd y Scarlets sawl tacl, ond roedd yr ornest yn llawn cyffro yn sgil yr holl gamgymeriadau.

Bu'n rhaid aros am 26 o funudau cyn pwyntiau cyntaf y Scarlets - cic gosb gan Sam Costelow. Roedd yna un arall yn fuan wedyn - eto gan Costelow - i gau'r bwlch i 6-7.

O fewn dim roedden nhw ar y blaen am y tro cyntaf. Fe fachodd Ken Owens dafliad Glasgow o'r lein cyn i Johnny McNicholl roi'r bêl i Steff Evans ei chario dros y llinell. Ni lwyddodd Costelow i drosi y tro hwn.

Fe gollodd y Scarlets chwaraewr arall cyn diwedd yr ail hanner - y clo Morgan Jones, a gafodd ergyd i'w ben. Ar yr ochor gadarnhaol, fe giciodd Costelow ragor o bwyntiau i'w gwneud hi'n 14-7 ar yr egwyl.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Canolwr Glasgow, Stafford McDowall wnaeth sgorio ceisiau cyntaf ac olaf y gêm

Roedd dechrau'r ail hanner yn debyg iawn i'r cyntaf, gyda chais i Glasgow wedi tri munud. George Horne wnaeth dirio - aeth ymlaen i drosi hefyd i ddod â'i dîm yn gyfartal.

Wedi ymgynghoriad gyda'r TMO, fe ddyfarnwyd bod prop y Scarlets, Sam Wainwright wedi troseddu yn erbyn Rory Darge cyn i Horne dirio, ac fe gafodd gerdyn melyn.

Aeth y Scarlets ar y blaen eto wedi cic gosb arall gan Costelow - ond roedd colli chwaraewr arall, Vaea Fifita, trwy anaf yn ergyd.

Aeth pethau o ddrwg i waeth - aeth Glasgow ar y blaen, 17-21, diolch i gais Johnny Matthews a throsiad Horne.

Wedi bron i awr o chwarae roedd y sgôr yn 17-28, wedi i'r ymwelwyr fanteisio ar gamgymeriad o'r lein gan y Scarlets. Rory Darge wnaeth tirio, gyda Horne yn ychwanegu'r pwyntiau.

Fe frwydrodd tîm Dwayne Peel yn galed i geisio taro'n ôl ac roedd yna siom pan wnaeth Ollie Smith osgoi cerdyn melyn am atal pas Johnny McNicholl rhag cyrraedd Steff Evans, oedd mewn sefyllfa ragorol i groesi'r llinell.

Gyda'r cloc yn tician, doedd dim dewis ond rhoi popeth i'r achos ond er iddyn nhw ddangos cymeriad ofer oedd eu hymdrechion. Daeth y cyfan i ben pan sgoriodd Stafford McDowall bumed cais Glasgow.

Glasgow nawr fydd yn wynebu Toulon neu Benetton yn rownd derfynol y gystadleuaeth yn Nulyn ar 19 Mai.

Pynciau cysylltiedig