Pryder dros ddyn sydd ar goll yng ngorllewin Affrica

  • Cyhoeddwyd
Michael CostainFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Michael Costain wedi mynd ar goll tra'n teithio yn Affrica

Mae ymdrech ar waith i ddod o hyd i ddyn 69 oed o Bowys, sydd wedi mynd ar goll yng ngorllewin Affrica ers dros fis.

Roedd disgwyl i Michael Costain, sy'n byw yn Rhaeadr, ddychwelyd i Gymru o'i wyliau yn Gambia ar 20 Mawrth ar ôl teithio yno ar 8 Mawrth.

Y gred yw fod Mr Costain wedi aros yn ardal Busumbala, yng ngorllewin Gambia, am ddeuddydd cyn gadael er mwyn teithio i bentref Abene, yn ne Senegal.

Er ei fod wedi trefnu hediad adref nid oedd ar yr awyren a does neb wedi ei weld ers hynny.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod yn ddefnyddiol i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig