Aberystwyth: Teuluoedd yn 'flin' wrth i gartref gofal fynd ar werth

  • Cyhoeddwyd
Elizabeth MorrisFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywed teulu Elizabeth Morris bod y gofal yng nghartref Hafan y Waun yn arbennig

Mae pryder am ddyfodol cartref gofal yn Aberystwyth wedi i'w berchnogion ei roi ar y farchnad.

Yn dilyn adolygiad, yr wythnos hon fe gyhoeddodd Methodist Homes (MHA) fod cartref Hafan y Waun yn Waunfawr yn un o 10 cartref fydd yn cael eu gwerthu.

Tra "nad yn benderfyniad hawdd", mewn datganiad dywed y cwmni fod "heriau gwirioneddol" o ran "sicrhau eu cynaliadwyedd parhaus".

Cafodd cartref Hafan y Waun ei agor yn 2007 ac mae'n darparu gofal ar gyfer 90 o drigolion gan arbenigo mewn gofal dementia.

Mae'r cwmni wedi cydnabod nad oes modd diystyru'r posibilrwydd o gartrefi yn gorfod cau.

Mewn ymateb dywedodd Cyngor Ceredigion eu bod yn gweithio gyda MHA gyda'r nod o sicrhau ei ddyfodol.

'Fyddai'n ddiwedd y byd'

Cyn gorfod symud i gartref arall am ei bod angen gofal nyrsio, bu Elizabeth Morris, o Lanystumdwy, yn cael gofal yn Hafan y Waun am oddeutu tair blynedd.

"Dwi erioed wedi gweld cartref tebyg," meddai ei merch Suki Morys wrth siarad â Cymru Fyw.

"Mae e yn arbenigo wrth gwrs mewn gofal i gleifion â dementia gan ddarparu therapi cerdd a garddio.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Hafan y Waun yn un o 10 cartref sy'n eiddo i Methodist Homes fydd yn mynd ar werth

"Mae'r safon yn 5* - fe fyddai'n ddiwedd y byd yn yr ardal hon petai'n cau.

"Mae'n gwbl hanfodol i deuluoedd cleifion dementia - rhaid iddo gael ei achub."

'Llawer o'r teuluoedd yn flin'

I nifer mae'r newyddion yn sioc anferth.

"Drwy'r papur lleol ges i wybod," meddai Nerys Williams o Dregaron.

Mae ei thad, Alwyn Evans, 71, wedi bod yn cael gofal yno ers dwy flynedd.

"Mae llawer o'r teuluoedd yn flin i ddweud y gwir bo' nhw ddim wedi cael gwybod.

"Ni wir yn gobeithio y bydd y cartref yn aros ar agor. Mae'r gofal sydd yno yn dda ac wrth gwrs does yna ddim lle arall yn y sir sy'n derbyn cleifion gyda dementia.

"Byddai teithio i Lanymddyfri neu dros y ffin yn dipyn pellach ac wrth gwrs mae degau yn cael gofal arbenigol yn Hafan y Waun.

"Ry'n ni gyd wedi cael sioc o glywed y newyddion."

Mae BBC Cymru wedi gofyn i MHA ymateb i'r honiadau bod dim rhybudd wedi ei roi i deuluoedd preswylwyr.

Mewn ymateb dywedon nhw "na fydd unrhyw newidiadau yn y ffordd mae'r cartref yn cael ei redeg".

Dywedodd prif weithredwr y cwmni, Sam Monaghan, na allai ddiystyru'r posibilrwydd o gartrefi yn gorfod cau, dolen allanol.

"Rydym wedi bod yn siarad ag arbenigwyr yn y marchnad gofal ac yn hyderus bydd prynwyr yn cael eu canfod ar gyfer y cartrefi hyn yn fuan," meddai.

"Pan ddarganfyddir prynwr, bydd y perchennog newydd yn cymryd cyfrifoldeb am y cartref, gan gynnwys preswylwyr a'r gweithwyr.

"Fodd bynnag, os yn y sefyllfa anffodus na ellir sicrhau prynwr, ni allaf ddiystyru'r posibilrwydd y bydd rhai yn cau.

"Rhagwelir, lle bo modd, y bydd y cartrefi yn dechrau trosglwyddo i berchnogion newydd erbyn dechrau 2024."

Dywedodd Aelod o'r Senedd Ceredigion, Elin Jones, fod penderfyniad MHA yn "galluogi'r Cyngor ac o bosib y bwrdd iechyd i allu ceisio sicrhau ei dyfodol i'r trigolion sydd yno yn barod, ac i ddarparu sylfaen ehangach ar gyfer gwasanaethau'r dyfodol."

Dywedodd Cyngor Ceredigion fod trafodaethau eisoes yn mynd yn eu blaen.

"Mae MHA wedi cysylltu â'r cyngor ynghylch Hafan y Waun ac rydym yn llwyr ymwybodol o'r risgiau sy'n gysylltiedig â cholli cyfleuster mor bwysig yng ngogledd y sir," medd llefarydd.

"Fodd bynnag, mae'r cyngor yn gweld hyn fel cyfle i ddatblygu a gwella gwasanaethau allweddol yn y dyfodol.

"Rydym yn gweithio gyda MHA ar hyn o bryd i ddod o hyd i atebion tymor canolig i hir, gyda'r nod o sicrhau dyfodol y cartref."

'Heb glywed dim'

Dywedodd y cynghorydd sir lleol, John Roberts, fod y newydd wedi dod yn sioc i lawer o bobl yr ardal.

"Mi glywais y cyhoeddiad yr un amser â phawb arall," meddai wrth Cymru Fyw.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd John Roberts fod teuluoedd a staff "angen sefydlogrwydd"

"Ges i gymaint o sioc pan glywais i, mae hwn yn un o'n cartrefi gorau... o'n i methu credu fe.

"'Wi ddim yn gwybod beth sy'n digwydd nawr... oeddwn yn gwybod fod nhw'n brin o staff ond mae pob man yn brin o staff y dyddiau hyn.

"O'n i yno y diwrnod agoron nhw fe ac oedd popeth yn wonderful, ond ers hynny mae 'na manager newydd bob blwyddyn a doeddwn methu deall pam fod nhw'n newid mor aml."

Ychwanegodd mai'r peth pwysig yw fod y cartref yn aros ar agor.

"Ma' fe'n ofnadw' i'r rhai sy'n gweithio yno wrth gwrs, ac yn broblem hefyd i'r rhai gyda teuluoedd yno, mae Hafan y Waun wedi bod yn llawn.

"'Da ni wedi colli Bodlondeb yn barod, odd pawb yn 'itha grac am hynny.

"Bydd rhaid cadw fe ar agor rhyw ffordd, falle fydd cwmni arall â diddordeb.

"Mae'r teuluoedd a'r staff angen sefydlogrwydd. Mae angen gwybod fod y pobl yn saff, ond ni'n dal i aros am nawr."

Fis Mai y llynedd cyhoeddwyd bod cartref arall yn yr ardal yn cau sef Cartref Nyrsio Abermad.