Benthyciadau myfyrwyr: Ad-daliadau 30 mlynedd i barhau yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
GraduatesFfynhonnell y llun, PA Media

Bydd benthyciadau myfyrwyr o Gymru yn dal i gael eu dileu ar ôl 30 mlynedd, yn lle'r 40 sydd wedi ei gynllunio yn Lloegr, meddai gweinidog addysg Cymru.

Dywedodd Jeremy Miles y bydd cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer myfyrwyr dros y ffin yn gadael graddedigion sydd ar gyflogau canolig ac is yn waeth eu byd.

Dywedodd wrth gynhadledd newyddion y bydd y system bresennol yn cael ei chadw.

Mae'r brifysgol yn "fuddsoddiad i fyfyrwyr a'r trethdalwr, ac mae angen system gyllid myfyrwyr deg a chytbwys", meddai Llywodraeth y DU mewn ymateb.

Ar hyn o bryd mae benthyciadau myfyrwyr yn cael eu dileu ar ôl 30 mlynedd, os nad ydynt wedi'u had-dalu'n llawn cyn hynny.

O fis Medi ymlaen, bydd y cyfnod ad-dalu yn cael ei ymestyn gan ddegawd i fyfyrwyr o Loegr.

Mae'n golygu y gallai myfyrwyr fod yn talu eu dyled myfyrwyr i mewn i'w 60au.

Mae Llywodraeth y DU hefyd yn bwriadu lleihau'r lefel y mae graddedigion o Loegr yn dechrau ad-dalu eu benthyciad o £27,295 i £25,000, tra hefyd yn torri'r gyfradd llog i gyd-fynd â'r mynegai prisiau manwerthu.

Mae'n dweud y bydd ymestyn y cyfnod ad-dalu yn lleihau'r bil i drethdalwyr.

'Treth gydol oes'

Dywedodd Martin Lewis o Moneysavingexpert.com y llynedd mai "dim ond tua chwarter y rhai sy'n gadael ar hyn o bryd y rhagwelir y bydd yn ennill digon i ad-dalu'n llawn nawr".

"Mae ymestyn y cyfnod hwn yn golygu y bydd y mwyafrif o enillwyr is a chanolig yn parhau i dalu am lawer mwy o flynyddoedd, gan gynyddu eu costau o filoedd.

"Ond ni fydd y rhai sy'n ennill y cyflogau uchaf a fyddai'n clirio o fewn y 30 mlynedd presennol yn cael eu heffeithio."

Dywedodd Mr Lewis fod y newidiadau i bob pwrpas yn troi'r benthyciadau i'r rhan fwyaf yn dreth raddedig gydol oes.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Martin Lewis wedi bod yn feirniadol o'r newid yn Lloegr

Dywedodd Mr Miles wrth gynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru nad oedd y system newydd yn Lloegr "yn fargen dda".

"Mae diwygiadau Lloegr o fudd i'r rhai sy'n ennill uchaf ac yn gwaethygu'r sefyllfa ar gyfer graddedigion sy'n ennill cyflogau canolig ac is. Mae menywod hefyd yn cael eu heffeithio'n anghymesur.

"Yn sicr ni ddylem fod yn gofyn i athrawon, nyrsys a gweithwyr cymdeithasol dalu mwy, tra bod y rhai sy'n ennill yr uchaf un yn talu llai."

Dywedodd y bydd Llywodraeth Cymru yn "cadw'r system bresennol yng Nghymru".

'Gryn dipyn yn llai o ddyled'

Pan ofynnwyd iddi am yr effaith ar enillwyr canolig yn 2022, dywedodd Michelle Donelan, Gweinidog y Prifysgolion ar y pryd, wrth y BBC y bydd y newidiadau "yn golygu na fydd unrhyw fyfyriwr sy'n graddio yn y dyfodol yn talu mwy mewn termau real nag y maent wedi'i fenthyg. Oherwydd mae hynny'n deg."

Nid yw'n glir faint yn ychwanegol y bydd cynllun Cymru i gadw'r ffenestr ad-dalu 30 mlynedd yn ei gostio.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y system grantiau prawf modd ar gyfer costau byw yng Nghymru "yn golygu bod gan fyfyrwyr o Gymru gryn dipyn yn llai o ddyled na myfyrwyr yn Lloegr ac mae cyfran y benthyciadau a dalwyd yn ôl yn uwch".

"Mae hyn yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn gallu aros ar y system fwy blaengar."

Dywedodd llefarydd ar ran adran Addysg Llywodraeth y DU: "Mae'r Brifysgol yn fuddsoddiad i fyfyrwyr a'r trethdalwr, ac mae angen system gyllid myfyrwyr deg a chytbwys sy'n darparu buddion addysg uwch tra'n sicrhau gwerth am arian i drethdalwyr a galluogi benthycwyr i ad-dalu eu benthyciadau'n llawn.

"Rydym wedi gwneud newidiadau i gyllid myfyrwyr i sicrhau bod mwy o raddedigion yn ad-dalu eu benthyciadau, gan gynnwys torri cyfraddau llog i RPI yn unig ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 fel na fydd benthycwyr newydd yn ad-dalu mwy nag a fenthycwyd yn wreiddiol, pan gaiff ei addasu ar gyfer chwyddiant.

"Drwy'r diwygiadau hyn bydd mwy na hanner y benthycwyr newydd yn ad-dalu eu benthyciadau yn llawn, o'i gymharu â'r gyfradd gyfredol o 20%."