Gweinidog Addysg yn galw am wneud gwisg ysgol yn rhatach
- Cyhoeddwyd
Fe ddylai ysgolion ystyried a oes modd gwneud eu gwisg ysgol yn rhatach i deuluoedd, yn ôl y Gweinidog Addysg.
Mae canllawiau newydd yn dweud "na ddylai logos ar wisg ysgol fod yn orfodol", ond nid yw wedi mynd mor bell â galw ar ysgolion i beidio eu defnyddio.
Dywedodd Jeremy Miles y dylai cyrff llywodraethu roi gwybod i deuluoedd am unrhyw newidiadau i wisg cyn diwedd y tymor.
Ond mae'n gofyn i ysgolion adolygu polisïau yn ystod "adeg prysur iawn o'r flwyddyn", meddai penaethiaid.
Mae'n dilyn ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru, fu'n holi barn am fesurau i ysgafnhau baich ariannol prynu gwisg ysgol ar deuluoedd sydd dan bwysau costau byw uwch.
Roedd cael gwared ar logos yn llwyr, eu diddymu ar wisg ymarfer corff neu eu defnyddio ar un eitem yn unig ymhlith yr opsiynau dan sylw.
Mae'r canllaw eisoes yn dweud y dylai ystyried pa mor fforddiadwy yw gwisg ysgol fod yn flaenoriaeth i gyrff llywodraethu ysgolion.
Ond dywedodd y gweinidog eu bod yn "dal i weld gormod o achosion lle mae teuluoedd wedi gorfod prynu gwisgoedd drud".
"Mae gwisg ysgol yn rhan bwysig o greu ymdeimlad o hunaniaeth ar gyfer ysgol, ond mae'n gwbl hanfodol bod y wisg yn fforddiadwy," meddai Mr Miles.
"Rydym yn gwybod bod gwisgoedd ysgol wedi'u brandio yn gallu bod yn llawer drutach i deuluoedd - dyna pam ddylai ysgolion ddim eu gwneud yn orfodol.
"Yn sicr, ni ddylai fod gofyn i nifer o eitemau fod wedi'u brandio."
Yn barod, mae'r canllaw yn dweud os oes gofyn am logo mai ar un eitem yn unig y dylai hynny fod, ond mae nifer o ysgolion yn gofyn am sawl dilledyn gyda bathodyn.
Mae Robyn Meredydd o Fethesda yn fam i ddau blentyn, pump a 10 oed.
Mae'n dweud bod yr ysgol gynradd yn gymharol hyblyg o ran gwisg ac mae'n gallu prynu crysau polo gwyn, ond mae'n disgwyl bydd y gost yn cynyddu wrth i'r plant symud i'r ysgol uwchradd.
"Mae o'n gost fawr i lot o deuluoedd, ac mae rhai ysgolion fel ysgolion ni yn weddol relaxed amdano fo," meddai.
"Ond mae 'na rai sy'n fwy stringent a ti'n cael llythyr adra os ydy dy blentyn di ddim yn gwisgo'r petha' cywir.
"Mae o'n rhoi stress ar y rhieni a stress ar y plant hefyd.
"'Da ni'n trio ailgylchu rhwng y ffrindia', pasio petha' i lawr, ond 'di o ddim wastad yn bosib - ti ddim wastad yn 'nabod rhywun efo plant yr un oed sy'n ffitio siwmper."
Mae Robyn yn rhan o gynllun benthyg, ac yn croesawu pwyslais y canllaw newydd ar ailgylchu gwisgoedd.
Mae Ysgol Bro Edern yng Nghaerdydd wedi rhedeg cynllun cyfnewid dillad ers dwy flynedd.
Rhieni sy'n rhedeg y prosiect, a Bethan Frost, athrawes Iechyd a Lles, yn arwain ar ran yr ysgol.
"Mae rhai sydd yn ffeindio fe'n anodd i brynu sawl eitem tebyg, felly maen nhw'n prynu un newydd a maen nhw'n dod i swapio un neu ddau ail law yn ogystal," meddai Ms Frost.
"Mae 'na rieni eraill sydd eisiau swapio pethau er mwyn gwella'r amgylchedd. Mae'n amrywio tipyn."
Mae hefyd yn gallu helpu wrth daclo absenoldeb, meddai, gan fod diffyg gwisg weithiau'n rheswm dros gadw draw o'r ysgol.
Dywedodd Ms Frost: "Ers y pandemig, mae 'na broblem ar draws Cymru gyda phresenoldeb felly 'dy'n ni'n ceisio gwneud popeth 'dy'n ni'n gallu i sicrhau bod presenoldeb mor uchel â phosibl."
Mae yna rai sy'n dadlau bod gofyn am lai o logos yn golygu nad yw rhieni yn cael eu cyfyngu i siopau penodol i brynu gwisg.
Ond yn ôl perchennog Orchid Fashion ym Mangor a Chaernarfon, sydd wedi bod yn gwerthu gwisgoedd ers 45 mlynedd, maen nhw'n cynnig ansawdd a gwasanaeth arbennig.
"Maen nhw 'chydig bach yn ddrytach ond maen nhw'n para yn hirach," meddai Eryl Chohan, sydd wedi gwerthu i sawl cenhedlaeth o'r un teulu.
"Mae'n bwysig i blentyn dwi'n meddwl bod 'na wisg ysgol. A mae'n bwysig i ni… hwn 'di bywoliaeth fi."
Mae hi'n gweld gwerth i gael bathodyn ar wisg, gan gynnwys ar wisg ymarfer corff.
"Mae o'n gwneud i'r plentyn deimlo'n rhan o rywbeth pwysig. Maen nhw'n chwarae mewn tîm," meddai.
"Ma'r timau football i gyd, mae gynnon nhw i gyd eu henwau ar eu topia', felly pam s'gen ysgol ddim?"
'Amser hynod o brysur o'r flwyddyn'
Mae ASCL Cymru, sy'n cynrychioli arweinwyr ysgolion, wedi croesawu'r pwyslais ar gadw cost gwisgoedd mor isel â phosib, ond maen nhw wedi cwestiynu'r amserlen ar gyfer unrhyw newidiadau.
"Mae hwn yn amser hynod o brysur o'r flwyddyn a byddai wedi bod o gymorth i ysgolion fod wedi cael yr arweiniad hwn yn gynt," meddai'r cyfarwyddwr Eithne Hughes.
Tra'n cefnogi mwy o gynlluniau ailgylchu gwisg ysgol, dywedodd y dylai ysgolion gael cyllid ychwanegol ar eu cyfer.
Mae Llywodraeth Cymru'n cynnig grantiau o hyd at £300 i deuluoedd sydd ar incwm is i helpu gyda chost gwisg ysgol.
Dywedodd Matthew Easter, Cadeirydd y Gymdeithas Gwisg Ysgol fod y gymdeithas yn siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar eu tystiolaeth.
"Mae cyfyngu ar logos ar wisg plant yn tanseilio gwerth gwisg ysgol ac yn cynyddu'r anghydraddoldeb sy' 'na rhwng disgyblion - sy'n teimlo o dan bwysau i ddilyn y ffasiwn ddiweddaraf.
"Mae gwisg ysgol yn sicrhau fod pawb ar yr un lefel ac felly yn lleihau bwlio mewn ysgolion ar draws Cymru.
"Mae'n debygol y bydd rhai rhieni yn wynebu mwy o gostau wrth iddyn nhw brynu dillad cynllunwyr drud i'w plant.
"Ry'n yn gweithio'n agos gydag ysgolion a manwerthwyr i ostwng y prisiau i rieni ond ry'n yn poeni am effaith anfwriadol y newid arfaethedig."
Dywedodd y Comisiynydd Plant Rocio Cifuentes: ""Fe wnaethon ni glywed wrth bron i 9,000 o blant a 900 o rieni a gofalwyr llynedd fel rhan o'n hymgynghoriad cenedlaethol.
"Roedd y neges yn glir: mae plant yn poeni am eu teuluoedd yn fforddio y pethau angenrheidiol, ac mae rheini yn gweld hi'n anodd i ymdopi gyda phrisiau ystod eang o nwyddau gwahanol.
"Roedd talu am wisg ysgol yn bryder i nifer, felly rydw i'n croesawu y ffocws pwysig yma ar fforddiadwyedd fel rhan o'r canllaw newydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2018