Y garreg a chwalodd gapel Drws-y-coed
- Cyhoeddwyd
Rhwng pentref Nantlle ac islaw Llyn y Dywarchen a Rhyd Ddu yn Nyffryn Nantlle, saif pentref hynafol Drws-y-coed.
Erbyn heddiw, mae Drws-y-coed yn llawn adfeilion ac atgofion o'r gymuned ffyniannus fu yma unwaith; y gwaith copr, y tyddynnod ac un garreg nodweddiadol iawn sef carreg a chwalodd gapel gwreiddiol Drws-y-coed.
Mewn rhifyn arbennig o raglen Dei Tomos ar Radio Cymru, yr hanesydd Bob Morris fu'n rhannu'r hanes.
Codwyd capel yr annibynwyr yn 1836 a mi oeddan nhw wedi cael dau ddiwrnod o wasanaethau ac oedfaon i ddathlu agor y capel. Mi oedd yna draddodiad cry o draddodiad anghydffurfiol wedi bod yma ers amsar maith ond hwn oedd y capel cyntaf pwrpasol iddyn nhw godi yn y dyffryn yma.
Mi oedd o'n ffrwyth blynyddoedd o ddatblygiad o ran addoli anghydffurfiol yn y dyffryn.
Ym mis Chwefror 1892 dyma'r garreg yma yn disgyn i lawr ar ben y capel, capel oedd wedi bod yma ers 1836. Mae yna gofeb yma yn nodi'r hen safle a mi fedrwch chi weld siap yr hen gapel o hyd.
Mae 'na ffotograff yn dangos y twll anferthol wnaethwyd yn y capel gan y graig. Doedd 'na ddim modd ei atgyweirio felly fe benderfynwyd adeiladu capel newydd rhyw 300 llath yn bellach i ffwrdd rhag ofn i'r un peth ddigwydd eto.
Fel welwch chi, mae'n anferth o graig yn dydi. Ond yn ffodus doedd yna neb yn y capal ar y pryd felly ni laddwyd nac anafwyd neb ar y pryd.
Adeiladwyd capel newydd yn Nrws-y-coed yn 1893. Mae'n parhau ar agor hyd heddiw gyda gwasanaethau'n cael eu cynnal yno bob yn ail Sul rhwng mis Mai a mis Tachwedd. Un sy'n aelod yno yw Alun Jones, brodor o Dal y Mignedd, gerllaw Drws-y-coed ond sydd bellach yn byw yng Nghaeathro. Rhannodd beth o hanes y capel newydd gyda Dei Tomos.
Capel newydd
Choeliwch chi fyth wrth sylwi ar faint y capel, ond mi lwyddon nhw i godi'r capel mewn blwyddyn, a mewn blwyddyn bron i'r Sul, roedd yna wasanaeth yma.
Y gost oedd £800 ac mi oedd yna hogia' ifanc lleol yn helpu efo'r adeiladu. Mi oedd Mam yn dweud bod ei hen daid yn cario llechi a cherrig o chwarel Pen-yr-Orsedd ac mi oeddan nhw yn carrio y cerrig a'r llechi am ddim. Mi fuon nhw am wythnosau yn eu cario nhw yma gyda throl a cheffyl.
Mae yna lun yn y capel o'r Brodyr Francis. Yn y canol mae Bob Owen a fo oedd cyfeilydd Y Brodyr Francis. Y fo dwi'n ei gofio - dyna'r atgof cynta sydd gen i o'r capel - mi oedd Bob Owen yn chwarae'r organ yn yn arbennig a mi oeddan ni i gyd fel teulu yn canu.
Mi oeddan ni yn cael cyfarfod canu yma os nad oedd yna bregath - awr o ganu yndê.
Mi ro'n i a'r wraig yn aelodau mewn capel ym Mhorthmadog ond pan symudon ni o Borthmadog i Gaeathro, dyma feddwl lle awn ni a phenderfynu mai fy lle i oedd cefnogi Capel Drws-y -coed.
Am fwy o hanesion difyr o Ddrws-y-coed darllenwch: