Carcharu dyn am ysgwyd ac anafu ei fab saith wythnos oed

  • Cyhoeddwyd
Llys y Goron Merthyr Tudful
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y dyn ei ddedfrydu yn Llys y Goron Merthyr Tudful

Mae dyn wedi cael dedfryd hir o garchar am ysgwyd ei fab, oedd yn saith wythnos oed ar y pryd, gan achosi anafiadau difrifol.

Cafodd y dyn 31 oed, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, ddedfryd o 10 mlynedd a naw mis o garchar mewn cysylltiad â'r digwyddiad yn 2018.

Clywodd yr achos bod y plentyn, sydd bellach yn bump oed, wedi cael niwed i'w ymennydd a'i fod wedi cael diagnosis o barlys yr ymennydd wedi'r digwyddiad.

Dywedodd barnwr wrth ei ddedfrydu yn Llys y Goron Merthyr Tudful na allai unrhyw ddedfryd "wneud yn iawn" am yr anaf i'r bachgen.

'Ein rhoi trwy uffern'

Clywodd yr achos bod y babi "yn ffynnu" cyn cael yr anafiadau a newidiodd ei fywyd ar 9 Mawrth 2018.

Yr amheuaeth yw bod y diffynnydd wedi colli ei dymer wrth i'r babi grio, a'i ysgwyd.

Roedd pen-glin, ffêr a dau o asennau'r plentyn wedi'u torri.

Mewn datganiad i'r llys dywedodd mam y plentyn fod y tad wedi rhoi'r ddau ohonyn nhw "drwy uffern".

Fe gafwyd y diffynnydd yn euog o achosi niwed corfforol ac o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol.

Pynciau cysylltiedig