Y Bencampwriaeth: Abertawe 3-2 West Bromwich Albion

  • Cyhoeddwyd
Olivier Ntcham unioni'r sgôrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Olivier Ntcham unioni'r sgôr yn yr ail hanner

Dau dîm ymhlith y rhai oedd ar gyrion y timau ail gyfle oedd yn cyfarfod yn Abertawe ddydd Llun.

Roedd hi'n gêm gystadleuol gan fod West Brom yn gobeithio am fuddugoliaeth a fyddai yn sicrhau lle iddyn nhw yn y gemau ail gyfle ond Abertawe oedd yn fuddugol.

Yr ymwelwyr aeth ar y blaen ar ôl 13 munud ond daeth Luke Cundle â'r Elyrch yn gyfartal ymhen 13 munud arall.

Roedd yr ymwelwyr yn benderfynol o gadw eu gobeithion yn fyw wrth i Semi Ajayi rwydo eu hail gôl ddeg munud i mewn i'r ail hanner cyn i Olivier Ntcham unioni'r sgôr unwaith eto.

Roedd y ddau dîm yn cystadlu tan y diwedd a chyda thair munud o amser ychwanegol daeth cic gosb ar ymyl y cwrt cosbi i'r Elyrch ac fe rwydodd Joel Piroe ei ugeinfed gôl o'r tymor a rhoi buddugoliaeth i Abertawe.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod Abertawe yn gorffen yn ddegfed yn y Bencampwriaeth a West Brom yn nawfed.