Apêl heddlu ar ôl lladrad gwerth £3,500 o siop Tesco

  • Cyhoeddwyd
Dau ddyn yn cerdded allan o siopFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu'n gofyn i'r dynion - neu unrhyw un sy'n adnabod y ddau - yn y llun i gysylltu â nhw

Mae heddlu yn y canolbarth yn chwilio am ddau ddyn fel rhan o'u hymchwiliad i ladrad o archfarchnad Tesco.

Fe gafodd gwerth £3,500 o nwyddau eu dwyn o'r siop yn Llandrindod.

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, fe ddigwyddodd y lladrad yn y siop ar Heol Waterloo rhwng 16:30 a 16:40 ddydd Iau 20 Ebrill.

Dywedodd y llu fod nwyddau gofal croen, eli lliw haul ffug a phrofion beichiogrwydd ymhlith y pethau gafodd eu dwyn.

Maen nhw wedi gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig