Gwalch a gollodd ei bartner i fod yn dad unwaith eto

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Aran bellach wedi canfod partner newydd - Elen - ac maen nhw'n gofalu am ddau wy yn eu nyth

Mae gwalch a gollodd ei bartner hirdymor yn mynd i fod yn dad unwaith eto ar ôl canfod partner newydd yng Ngwynedd.

Fe wnaeth Aran ddychwelyd i warchodfa Gweilch Glaslyn ger Porthmadog fis Ebrill.

Ond am y tro cyntaf mewn 20 mlynedd ni ddychwelodd ei bartner, Mrs G, gyda gwirfoddolwyr Bywyd Gwyllt Glaslyn yn cydnabod eu bod yn annhebygol o'i gweld fyth eto.

Mae Aran bellach wedi canfod partner newydd, sydd wedi'i henwi'n Elen, ac maen nhw'n gofalu am ddau wy yn eu nyth.

Ffynhonnell y llun, Bywyd Gwyllt Glaslyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r warchodfa yn gobeithio mai dyma fydd dechrau perthynas hirdymor rhwng Aran ac Elen

"Fe wnaeth Aran ddenu partner newydd i'r nyth, daethon nhw'n gyfarwydd â'i gilydd am ychydig wythnosau, a rŵan mae hi wedi dodwy dau wy," meddai Rebecca Phasey o Fywyd Gwyllt Glaslyn.

"Felly 'dan ni'n obeithiol y gwelwn ni gywion ar y nyth unwaith eto."

Y gred yw bod Elen - a chafodd ei henwi ar ôl mynydd Yr Elen yn y Carneddau - yn ifanc, ac mai dyma o bosib yw'r tro cyntaf iddi fridio.

Tra bod nifer o'r gweilch sy'n ymweld â'r DU â rhwymyn bychan o amgylch un goes i'w hadnabod, does gan Elen ddim rhwymyn o'r fath, felly does dim ffordd o ddarganfod o ble mae hi wedi dod.

Disgrifiad o’r llun,

"'Dan ni'n gobeithio erbyn dechrau Mehefin y gwelwn ni ddau gyw yn deor ar y nyth," medd Rebecca Phasey

"Mae hi mor gyffrous gwybod fod yna dal weilch 'dan ni ddim yn 'nabod allan yna," meddai Ms Phasey

Mae'r warchodfa yn gobeithio mai dyma fydd dechrau perthynas hirdymor rhwng Aran ac Elen - mae gweilch yn tueddu i aros gyda'i gilydd tan y bydd un yn marw.

"'Dan ni'n gobeithio erbyn dechrau Mehefin y gwelwn ni ddau gyw yn deor ar y nyth, ac ar ôl hynny fe fyddan nhw'n tyfu ac yn mudo i orllewin Affrica yn yr hydref," meddai Ms Phasey.

Pynciau cysylltiedig