Plentyn wedi marw ar ôl 'argyfwng meddygol' yn Llanybydder

  • Cyhoeddwyd
Arwydd LlanybydderFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyfeiriad yn ardal Llanybydder, dywedodd Heddlu Dyfed-Powys

Mae plentyn wedi marw ar ôl "argyfwng meddygol" yn ardal Llanybydder, Sir Gaerfyrddin.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyfeiriad yng Nglanduar tua 13:00 ddydd Mawrth.

Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans for yr Ambiwlans Awyr wedi ei anfon, ynghyd â swyddogion meddygol eraill.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn cydweithio â'r crwner i sefydlu manylion llawn y farwolaeth.

Mae teulu'r plentyn yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

Pynciau cysylltiedig