Cymuned Porthmadog 'wedi dychryn' ar ôl fideo digwyddiad heddlu
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorydd lleol wedi dweud bod cymuned Porthmadog "wedi dychryn" yn dilyn fideo sydd wedi ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol.
Yn y clip, mae'n ymddangos bod dyn yn cael ei daro gan swyddog heddlu cyn cael ei arestio brynhawn Mercher, 10 Mai.
Mae'r heddlu bellach yn ymchwilio i'r digwyddiad, wedi i'r dyn gael ei gludo i ysbyty ar ôl cael ei arestio gan swyddogion.
Fe wnaeth Heddlu'r Gogledd gadarnhau fod dyn 34 oed o Borthmadog wedi ei gludo i'r ysbyty "o ganlyniad" i'r digwyddiad, a'i asesu gan staff meddygol, cyn cael ei gadw yn y ddalfa.
'Heddlu angen adfer ffydd'
Dywedodd Nia Jeffreys, sy'n gynghorydd ym Mhorthmadog fod y "gymuned i gyd 'di dychryn i weld y ffasiwn ymddygiad" a welwyd yn y fideo.
"Dw i'n bersonol 'di brawychu yn gweld y ffasiwn beth," meddai.
"Mi ydw i ar y cyd gyda'r AS Liz Saville Roberts a'r Aelod Senedd, Mabon ap Gwynfor wedi sgwennu at y prif gwnstabl yn Heddlu Gogledd Cymru i gael manylion o beth ddigwyddodd, a sut bod y math yma o beth yn gallu digwydd.
"Hefyd 'dan ni'n edrych ymlaen i beth mae'r heddlu am wneud rŵan i adeiladu hyder yn y gymuned yn yr heddlu.
"Mae hyder yma a'r ffydd yma wedi ei ysgwyd go iawn ym Mhorthmadog. Mae'n bwysig bod yr heddlu yn cymryd camau i ddod i waelod y ffeithiau, ac hefyd i ymestyn allan i ailadeiladu'r berthynas efo'r gymuned yn Port."
Dywedodd Prif Gwnstabl y llu fod y mater wedi ei gyfeirio i'r corff annibynnol sy'n ymchwilio i honiadau'n ymwneud â'r heddlu.
Mewn neges ar Twitter, dywedodd Amanda Blakeman: "Dw i wedi gweld y deunydd fideo y bore 'ma a dw i'n cymryd hyn o ddifrif.
"Mae ymchwiliad yn mynd yn ei flaen fel y gallwn ddeall y digwyddiad yn llawn ac ry'n ni wedi cyfeirio'r mater i'r IOPC."
Ychwanegodd y llu mewn datganiad y bydd manylion pellach yn cael eu rhannu maes o law.
Mewn datganiad dywedodd yr IOPC: "Rydym yn ymwybodol o fideo oedd yn cael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol bore 'ma yn dangos digwyddiad ym Mhorthmadog gyda swyddog heddlu.
"Rydym nawr wedi derbyn cyfeiriad gan Heddlu'r Gogledd sy'n cael ei asesu i weld pa gamau y gellir bod eu hangen gan yr IOPC."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2023