'Troi at gyfryngau cymdeithasol i gael cyngor ar fronfwydo'

  • Cyhoeddwyd
Sioned a Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sioned Davies o Sir Ddinbych wedi cael profiadau amrywiol gyda bwydo o'r fron

Mae galw am fwy o gymorth i famau sy'n dewis bwydo o'r fron, gydag un fam yn dweud wrth Newyddion S4C fod mwy o help i gael ar gyfryngau cymdeithasol nag yn y gymuned.

Yn ôl ffigyrau diweddar, mae gostyngiad yn y nifer sy'n bronfwydo o fewn chwe mis o roi genedigaeth yng Nghymru.

Dywedodd un arbenigwr fod angen mwy o gefnogaeth ar famau cyn geni babanod er mwyn paratoi ar gyfer unrhyw heriau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod cymorth bwydo ar y fron yn parhau i gael ei flaenoriaethu.

"Chi sy'n gyfrifol am fwydo y babi," meddai Sioned Davies o Sir Ddinbych, sy'n fam i ddau.

"O'n i'n cwestiynu fy hun lot ar y dechrau. Ydyn nhw'n cael digon? Ydyn nhw'n cael gormod? A ma' hynny'n gwneud i'ch emosiwn chi fod dros bob man. Mae o'n sialens."

'Edrych ar gyfryngau cymdeithasol'

Mae Sioned wedi cael profiadau amrywiol gyda bwydo o'r fron, ac yn credu y dylai mwy o gymorth arbenigol fod ar gael ar ôl rhoi genedigaeth.

"Roedd y cymorth ges i yn yr ysbyty gan y tîm yn amhrisiadwy. Ond yn anffodus dwi'm yn meddwl fod ganddon ni yr un math o wasanaeth yn y gymuned.

"Dwi wedi gorfod edrych ar lot o dudalennau ar gyfryngau cymdeithasol i gael cyngor.

"'Dan ni angen gwell gwasanaeth yn y gymuned i ni allu cysylltu hefo nhw pryd bynnag 'dan ni angen, yn lle jyst aros am apwyntiadau hefo'r ymwelwyr iechyd.

"Ma' 'na amseroedd yn ganol nos sy'n anodd, felly jyst i gael rhywun ar ben arall y ffôn."

Disgrifiad o’r llun,

"Fyswn i'n hoffi gweld mwy o gefnogaeth a llai o bwysau," meddai Beca Ellis

Roedd yna farn debyg ymhlith mamau yn y grŵp ioga babi ym Mhenarth hefyd.

Fe ddywedodd Beca Ellis, sy'n fam i bedwar: "Mae o yn anodd a mae angen lot o gymorth.

"Ma'r cyngor yn wahanol iawn. Does dim un dull sydd yn gweithio i bawb. Os ydych chi'n siarad hefo gwahanol bobl mae'n newid o berson i berson.

"Fyswn i'n hoffi gweld mwy o gefnogaeth a llai o bwysau, o ran dim ond un ffordd sy'n gweithio."

'Dim digon ohonom'

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru, rhwng Gorffennaf a Medi y llynedd roedd 63.4% o famau i fabanod newydd-anedig yn bwydo o'r fron, tra bod y ffigwr yn gostwng i 24.7% i fabanod chwe mis oed.

Yn ôl un sy'n arbenigo yn y maes, Catrin Roberts, mae angen mwy o addysg, ac annog mamau i baratoi a threfnu ymlaen llaw tra'n feichiog fel eu bod yn fwy parod i wynebu'r heriau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Catrin Roberts yn cydnabod bod angen mwy o gefnogaeth yn y gymuned, ond yn dweud fod hynny'n heriol

"Mae ysbytai a llefydd cyhoeddus yn gorfod gweithio tuag at safonau bronfwydo, a rhan o hynny ydy addysg yn ystod beichiogrwydd," meddai.

"Mae hynny yn faes fedrwn ni wella fel bod gan ferched gwell syniad o beth i'w ddisgwyl yn ymarferol, a be' ma' fel i fronfwydo o ddydd i ddydd.

"Mae 'na help allan yna, ond yn anffodus 'swn i'n d'eud bod 'na ddim digon ohonom ni i ofalu ar gyfer pawb sy'n cael problemau, a falle' dyna lle ma' rhai yn teimlo bo' nhw ddim yn cael y gefnogaeth.

"Mae angen trio annog breastfeeding support peers yn y gymuned i roi cefnogaeth."

'Bronfwydo'n flaenoriaeth'

Er gwaethaf strategaeth gan Lywodraeth Cymru i geisio cael mwy o famau i fronfwydo, mae patrwm y ffigyrau wedi bod yn debyg dros y pum mlynedd ddiwethaf.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Mae cymorth bwydo ar y fron yn parhau i gael ei flaenoriaethu gan wasanaethau bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd a dylai byrddau iechyd ystyried amgylchiadau pob unigolyn wrth ddarparu cymorth.

"Ma' 'na alw o'r newydd am fwy o gymorth i famau ifanc sy'n dewis bwydo o'r fron."

Pynciau cysylltiedig