Eurovision yn creu bwrlwm a gobaith yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Dilynwyr EurovisionFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae llygaid y byd ar Lerpwl wrth i'r ddinas gynnal yr Eurovision - un o gystadlaethau cerddorol mwyaf y byd.

Ond wrth i filoedd heidio i'r ddinas, mae effaith y gystadleuaeth yn glir yng Nghymru hefyd, gyda busnesau'n dweud bod y bwrlwm yn cael effaith bositif.

"Mae hi wedi rhoi Cymru ar y map," meddai Yan Chan, sy'n rhedeg gwesty'r Mountain Park yn Sir y Fflint, tua 30 munud o Lerpwl.

Mae'n dweud bod pob ystafell wedi eu llenwi dros y Sul, a hynny yn sgil y gystadleuaeth.

"Mae pobl yma o Lundain, Romania ac Estonia," meddai.

Wrth i'r Deyrnas Unedig lwyfannu'r sioe ar ran enillwyr 2022, Wcráin, mi fydd 26 o wledydd yn cystadlu yn rownd derfynol y gystadleuaeth nos Sadwrn.

Yn rhyngwladol, y gred yw y bydd 160 miliwn o bobl yn gwylio'r perfformiadau.

'Pwrpas Eurovision ydy dod â phobl ynghyd'

Yng Nghaerdydd, mae disgwyl i 1,200 o bobl heidio i ganolfan Depot ar gyfer darllediad swyddogol y gystadleuaeth.

"Ry'n ni 'di rhoi 200 o'r tocynnau am ddim i bobl o Wcráin sydd bellach yn ne Cymru," meddai Nick Saunders, cyfarwyddwr digwyddiadau Depot.

"Mae'n fraint enfawr i gynnal y cyfan."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Nick Saunders yn edrych ymlaen at groesawu pobl i wylio Eurovision nos Sadwrn yng nghanolfan Depot

Bydd y safle yn sgrinio'r gystadleuaeth gyfan, gyda darparwyr bwyd Ewropeaidd ar gael yno i'w mwynhau.

"Mae gen i dad-cu o Wcráin" meddai Mr Saunders. "Mae rhaid i bobl gofio pam mae'r gystadleuaeth yn Lerpwl eleni ac nid yn Wcráin.

"Pwrpas Eurovision ydy dod â phobl ynghyd. Mae'n dangos bod 'na obaith."

'Mae 'na gymaint o buzz'

Un sydd wedi bod yn dilyn y gystadleuaeth ers blynyddoedd ac yn gwerthfawrogi'r naws o gymuned ydy Aled Nurton o Gaerdydd.

"Dwi'n ffan enfawr o Eurovision," dywedodd. "Dwi bach yn embarrassed i ddweud bod fi'n edrych 'mlaen bob flwyddyn."

Ffynhonnell y llun, Aled Nurton
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth Aled ar draws un o brif gyflwynwyr Eurovision, Graham Norton, mewn maes awyr y llynedd

Bydd Aled ymhlith y 6,000 o bobl yn yr arena yn Lerpwl nos Sadwrn.

"Mae 'na gymaint o buzz. Mae pawb mor hapus ac mae 'na gymaint yn mynd 'mlaen yn Lerpwl."

Mae Aled wedi teithio ar hyd a lled Ewrop dros y degawd diwethaf i wylio'r gystadleuaeth, ac yn dweud bod eleni yn "hynod o gyffrous" wrth i'r Deyrnas Unedig ei chynnal am y tro cyntaf ers 1998.

Ffynhonnell y llun, Aled Turton
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aled Nurton (ar y dde) wedi bod i sawl Eurovision ac fe fydd yn yr arena yn Lerpwl nos Sadwrn

Mae'n amcangyfrif ei fod wedi gwario £10,000 yn ystod y cyfnod, gan gynnwys £4,000 ar docynnau yn unig.

"Mae'r cyfan wedi bod werth e, 100%," meddai.

"Mae'r gymuned mae'n ei chwmpasu yn enfawr. Mae pawb mor gyfeillgar.

"Gobeithio fydda i'n gallu parhau i fynd yn fy 40au a gweld pobl yn eu 20au yn cael yr un profiad, ac wedyn alla i fyfyrio ar faint o lawenydd ges i."

Disgrifiad o’r llun,

Fe symudodd Elina Shchohla i Landudno y llynedd

I bobl Wcráin, sydd bellach yng Nghymru, mae'r Eurovision yn cynnig cyfnod o obaith.

Fe symudodd Elina Shchohla, 18, i Landudno y llynedd.

"Dwi'n canu'r piano felly, mae gen i ddiddordeb mawr yn y gystadleuaeth," meddai.

Roedd Elina ymhlith rhai o'r Wcreiniaid a gafodd docyn ar gyfer y rownd gynderfynol yn Lerpwl.

"O'n i wastad yn gwylio'r gystadleuaeth a nawr, dwi'n gallu gwylio hi'n fyw."