Dros 100 o bobl yn mynychu rali gwrth-hiliaeth Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Roedd dros 100 o bobl mewn rali gwrth-hiliaeth yn Aberystwyth ddydd Sadwrn, a drefnwyd gan adain Stand Up to Racism y dref.
Yn ôl y trefnwyr, nod y rali oedd amlygu bod ymddygiad hiliol yn broblem yn nhrefi a phentrefi'r canolbarth a gorllewin Cymru, yn ogystal ag yn ninasoedd mwy poblog y wlad.
Mewn datganiad ar-lein o flaen llaw, fe honnodd y trefnwyr honni Heddlu Dyfed-Powys wedi bod yn "proffilio perchennog busnes lleol mewn ffordd hiliol... ynghyd ag unigolion du ac Asiaidd eraill".
Gwnaeth rhai o'r siaradwyr yn y rali hefyd gyhuddo'r llu heddlu o fod yn "sefydliad hiliol".
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi bod yn ymgysylltu gyda threfnwyr y rali a'u bod yn cefnogi'r hawl i brotestio heddychlon.
Mewn ymateb i'r honiadau dywedodd yr Uwch-arolygydd Steve Davies: "Mae ein prif gwnstabl wedi ymuno gyda phob prif gwnstabl yn ymrwymo i newid er mwyn i'r llu fod yn weithredol wrth-hiliol.
"Fel llu rydym yn ymgysylltu gydag aelodau o'r cymunedau du, Asiaidd a lleiafrifol eraill ac rydym yn gwrando ar eu profiadau a'u pryderon
"Nid ydym yn goddef unrhyw hiliaeth mewn plismona ac rydym yn disgwyl gwell ymwybyddiaeth o'r problemau y gall unigolion eu hwynebu wrth ymgysylltu â ni, yn ogystal â'r system cyfiawnder troseddol ehangach. Mae yna wastad lle i wella."
'Angen trafodaeth aeddfed'
Dywedodd un o drefnwyr y rali, Rhodri Francis: "Dyw e ddim dim ond yn ymwneud a ddim fod yn hiliol, ond mae am fod yn wrth-hiliol hefyd. Ac mae hynny'n bwysig iawn.
"Mae'n ymwneud a chefnogaeth pobl gwyn hefyd, eu bod nhw'n gwrthwynebu hiliaeth.
"Roedden i mewn gem pêl droed wythnos diwethaf a gwnaeth rhywun sylwad hiliol, ac es i i fyny atyn nhw a dweud 'Pam wyt ti'n gwneud hynny?' A dwi'n credu bod hynny mor, mor bwysig. Mae'n anodd ond mae'n rhaid ei wneud. Dyna sut fyddwn ni'n curo hiliaeth."
Un o'r siaradwyr yn y rali oedd Bayanda Vundamina - myfyriwr o Gasnewydd a llywydd nesaf Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.
Dywedodd: "Mae i wneud a chael y drafodaeth yna am ragfarn pobl. Ac addysgu pobl am fraint pobl gwyn.
"Unwaith ein bod yn gallu cael y drafodaeth ac eistedd lawr a bod yn aeddfed am y peth, byddwn yn gallu gwneud gwir gynnydd tuag at greu Cymru wrth-hiliol."
Fe wnaeth Talat Chaudhri, maer Aberystwyth, hefyd annerch y rali. Mae wedi byw yn Aberystwyth am 25 mlynedd ac wedi dysgu Cymraeg, ond cafodd ei fagu yn Essex lle mae'n dweud y gwnaeth wynebu cam-drin hiliol bron yn ddyddiol.
Dywedodd: "Rydym yn sicr ddim yn gymuned hiliol. Ond, nid yw hynny'n golygu nad oes gennym broblemau gyda hiliaeth, mae hiliaeth yn bodoli ymhobman."
"Roedden i'n byw mewn lle ble oeddwn yn wynebu'r bygythiad o drais yn ddyddiol... dydw i ddim yn cael hynny nawr ond mae'n parhau i fodoli. Dwi'n lwcus i ddweud nad ydw i'n profi hynny'n ddyddiol nawr ond mae eraill yn."
Dywedodd y trefnwyr eu bod wedi gobeithio gweld mwy o bobl yn y rali a'u bod yn siomedig nad oedd mwy wedi mynychu, ond bod y frwydr yn erbyn hiliaeth yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2023