Beiciwr modur yn marw wedi gwrthdrawiad ger Penfro
- Cyhoeddwyd
Mae beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng fan a beic modur yn Sir Benfro.
Bu farw Ashley Jones, oedd yn 29 oed ac o Gilgeti, wedi'r gwrthdrawiad ar yr A477 tua 08:00 ddydd Sadwrn.
Roedd yn teithio ar hyd y ffordd i gyfeiriad Penfro ar feic modur coch, pan fu mewn gwrthdrawiad gyda fan gwyn oedd yn tynnu trelar ger cyffordd yr A4075, sy'n cael ei adnabod fel Nash Fingerpost.
Roedd y fan wedi bod yn teithio ar hyd yr A4075 o Benfro cyn ymuno efo'r A477 i gyfeiriad Caerfyrddin.
Mewn datganiad dywedodd ei deulu: "Rydym fel teulu wedi ein llorio gan golled drasig Ashley.
"Roedd yn gael ei garu ac mi fydd yn cael ei golli'n fawr gan ei ddyweddi, ei fab, ei deulu a'i ffrindiau."
Mae ymchwiliad Heddlu Dyfed-Powys yn parhau ac maen nhw'n apelio ar unrhyw dystion posib i gysylltu â nhw.