Apiau meddygol i dynnu pwysau oddi ar wasanaethau iechyd

  • Cyhoeddwyd
Paige a Jon
Disgrifiad o’r llun,

Paige Calved yn dangos i'w chlaf, Jon, sut mae defnyddio ap gofalu am glwyfau

Mae treialon yn cael eu cynnal yn y gymuned gyda dyfeisiadau symudol allai wella cleifion yn gynt, a lleihau pwysau ar wasanaethau iechyd.

Bwriad y dechnoleg, meddai gweithwyr iechyd, yw helpu i leihau nifer yr apwyntiadau ysbyty.

Mae'r dechnoleg hefyd yn golygu bod cleifion yn derbyn gofal arbenigol yn gyflymach, yn ôl un nyrs sydd eisoes yn ei defnyddio.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn disgwyl gwario £65m ar wasanaethau digidol iechyd a gofal eleni.

'Gwybodaeth gywir yn gynt'

Mae Paige Calved yn nyrs gymunedol ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe, ac yn ymweld â chlaf, Jon Hawkins, bob dydd er mwyn asesu ei glwyfau.

Mae tîm nyrsio rhanbarthol y bwrdd iechyd yn treialu dyfais symudol, neu ap, sy'n caniatáu i arbenigwyr o fewn y tîm i asesu cyflwr clwyfau cleifion, a chynnig cyngor yn y fan a'r lle.

Mae'r ap hefyd yn golygu bod nyrs yn gallu recordio manylion yr ymweliad yn ddigidol fel bod yr holl wybodaeth mewn un lle.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Paige yn dweud fod yr ap yn helpu staff meddygol fel hi i gadw gwell cofnod o gyflwr cleifion

"Mae'r wybodaeth i gyd ar yr ap ac mae modd i wahanol arbenigwyr meddygol edrych ar yr wybodaeth ar unrhyw adeg," meddai Ms Calved.

"Wedyn rydyn ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y claf yn derbyn y gofal gorau posib."

Dywedodd arweinydd trawsnewid nyrsio rhanbarthol Bae Abertawe, Catrin Codd: "Rydyn ni'n gobeithio lleihau'r amser mae'n cymryd i glwyfau wella drwy sicrhau bod nyrsys yn gallu cael y wybodaeth gywir yn gynt o'i gymharu â'r arfer."

Gobaith y tîm nyrsio rhanbarthol yw gweld rhagor o fuddsoddiad yn y dechnoleg, i alluogi mwy o weithwyr iechyd i allu defnyddio'r ap yma yn y dyfodol ar draws Cymru.

Dyfais cadw tabledi

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru sy'n ariannu'r prosiect, ynghyd â sawl peilot arall sy'n defnyddio technoleg sy'n galluogi monitro cleifion o bell.

Dywedodd prif weithredwr yr hwb, Cari-Anne Quinn fod y dechnoleg eisoes yn lleihau pwysau ar dimau clinigol, ac yn "annog cleifion i gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu hiechyd".

"Ein bwriad yw canolbwyntio ar ddod o hyd i ffyrdd arloesol o fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru," meddai.

Yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, maen nhw'n treialu dyfais feddyginiaeth ddigidol i helpu cleifion sydd â dementia, nam gwybyddol, neu sydd wedi ymweld ag adran frys oherwydd eu bod nhw wedi cymryd eu meddyginiaeth yn anghywir.

Disgrifiad o’r llun,

Thomas Sauter gyda'r ddyfais glyfar sy'n helpu pobl i gadw cofnod o ba dabledi mae angen iddyn nhw eu cymryd

Mae'r cynllun gwirfoddol yn caniatáu i berson gael dyfais ddigidol sy'n cadw'r feddyginiaeth yn drefnus, er mwyn iddyn nhw gymryd y nifer cywir o dabledi pob dydd.

Mae'r ddyfais yn gallu cysylltu i ffonau symudol trwy gerdyn sim, ac os yw'r unigolyn yn anghofio cymryd meddyginiaeth, mae'r ddyfais yn canu larwm i'w hatgoffa nhw.

Mae'r ddyfais hefyd yn anfon neges drwy ap i ffôn symudol person, er enghraifft aelod o'u teulu neu ofalwr, er mwyn iddyn nhw atgoffa'r person i gymryd eu tabledi.

Dywedodd prif fferyllydd clinigol Bwrdd Iechyd Cwm Taf, Thomas Sauter: "Fel rhan o'r peilot rydyn ni'n treialu'r ddyfais gyda phobl hŷn yn bennaf, sydd â dementia neu nam gwybyddol.

"Rydyn ni wedi gweld bod y galw ar gyfer cymorth yn tyfu, felly mae'r gwasanaeth monitro o bell yma yn golygu ein bod ni'n gallu canolbwyntio ein hymdrechion ar y bobl sydd angen help fwyaf, a sicrhau eu bod nhw'n derbyn cymorth mewn ffordd amserol."

Pynciau cysylltiedig