Llais newydd yn cynrychioli cleifion Cymru
- Cyhoeddwyd
Un corff cenedlaethol sy'n cynrychioli llais defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Cymru o ddydd Llun ymlaen,.
Mae'r corff "newydd ac annibynnol" - Llais, dolen allanol - yn disodli gwaith y saith Cyngor Iechyd Cymuned a fu'n cefnogi buddiannau defnyddwyr gwasanaethau'r GIG am bron i hanner canrif.
Mae yna addewid y bydd y corff newydd "yn cryfhau grym a dylanwad lleisiau pobl wrth siapio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru".
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: "Bydd Llais yn cryfhau lleisiau a chynrychiolaeth pobl, yn eu galluogi nhw i leisio'u barn, ac yn eu helpu i siapio eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
"Bydd Llais yn helpu i adeiladu mwy o gysylltiadau rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, unigolion a chymunedau, gan hyrwyddo llais y dinesydd sy'n wirioneddol gynrychioliadol i bawb, o bob oed, ble bynnag maen nhw'n byw yng Nghymru."
Bydd Llais yn gweithredu ar draws saith rhanbarth, sy'n cyfateb i ardaloedd daearyddol y saith Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yng Nghymru:
Caerdydd a'r Fro
Cwm Taf Morgannwg
Gwent
Gorllewin Cymru
Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe
Gogledd Cymru
Powys
Yn ôl Llais fe fydd y drefn newydd "yn trawsnewid y ffordd mae defnyddwyr gwasanaethau yn cael eu clywed a'u gwerthfawrogi".
"Gan weithio'n lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol ar draws gofal cymdeithasol a gofal iechyd gyda'i gilydd am y tro cyntaf, bydd yn cynnig ffordd i bobl Cymru ddweud eu dweud yn y gwaith o gynllunio a darparu'r gwasanaethau sydd mor bwysig i'w bywydau nhw a bywydau eu hanwyliaid."
Mae'n dweud y bydd staff a gwirfoddolwyr yn gwrando ar farn pobl mewn cymunedau lleol ar draws Cymru "ac yn defnyddio'r hyn maen nhw'n ei glywed i helpu i wneud iechyd a gofal cymdeithasol yn well i bawb".
Maen nhw'n awyddus i weithio gyda phobl o gefndiroedd gwahanol "y mae eu safbwyntiau a'u profiadau heb eu cynrychioli'n ddigonol" hyd yma.
Bydd hefyd yn cefnogi pobl i wneud cwynion drwy wasanaeth cwynion cyfrinachol, ac yn cynnig "gofod diogel ac ymatebol i bobl rannu eu profiadau bywyd go iawn o iechyd a gofal cymdeithasol ar-lein ac wyneb yn wyneb".
Dywedodd Cadeirydd Llais, Yr Athro Medwin Hughes: "Drwy weithgareddau Llais, rydyn ni am greu darlun o'r hyn sy'n gweithio'n dda a ble mae angen i wasanaethau wella, gan sicrhau bod barn pobl Cymru'n cael ei chynrychioli mewn penderfyniadau pwysig.
'Cyfnod cyffrous'
Dywedodd y Prif Weithredwr, Alyson Thomas: "Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i bawb sy'n ymwneud â Llais wrth i ni geisio adeiladu ar waith gwerthfawr y Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru.
Mewn neges ar-lein yn nodi diwedd yr hen drefn, dywedodd Cymuned Iechyd Gogledd Cymru ei fod yn ddiwrnod "trist i staff ac aelodau sydd wedi gweithio'n ddiflino dros gleifion" y rhanbarth.
Ychwanegodd: "Byddwn yma o hyd, o dan enw arall, i helpu, cefnogi a gwrando."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd12 Medi 2017
- Cyhoeddwyd21 Awst 2017