Canser: 'Ges i wybod yn ifanc na fyddwn yn cael plant'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

"Dwi am i fy stori helpu eraill," meddai Mary Grice Woods o Aberystwyth

Yn 12 oed fe gafodd Mary Grice Woods o Aberystwyth ddiagnosis o ganser yr ofari, ac yn fuan wedyn cafodd wybod na fyddai hi'n gallu cael plant yn naturiol.

Wedi 10 mlynedd "o gladdu yr hyn ddigwyddodd", mae hi bellach yn awyddus i rannu ei phrofiad er mwyn codi ymwybyddiaeth.

"Pan wyt ti'n 12 oed ti'm yn meddwl llawer iawn am bwyti fe. O'n i jyst yn falch bo fi'n gallu mynd 'nôl i'r ysgol a dawnsio," meddai Mary wrth Cymru Fyw.

"Am flynyddoedd ro'n i methu siarad â phobl am y profiad. O'n i bach yn embarrassed... o'n i ddim eisiau i bobl wybod - jyst eisiau cario 'mlaen 'da bywyd fi fel o'dd e heb ddigwydd.

"Tua blwyddyn yn ôl 'nes i ddechrau mynd i therapi. Nawr dwi'n hynach, dwi'n deall beth sydd wedi digwydd i fi a ma' hynna wedi gwneud i fi feddwl am bwyti fe.

"Mae'n drist achos buasai'n neis cael teulu fy hun ond dwi'n falch bo fi dal yma i fod yn onest."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mary yn benderfynol o fod yn ddawnswraig broffesiynol er gwaethaf ei salwch

Ers yn ifanc mae Mary wedi bod yn ddawnswraig frwd ac yn enillydd cyson yn eisteddfodau cenedlaethol yr Urdd.

Mae hi bellach yn ddawnswraig broffesiynol ac ar fin cwblhau ei gradd ym Mhrifysgol West London.

A hithau'n wythnos genedlaethol codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl, dywed ei bod hi'n hollbwysig i bobl siarad am brofiadau.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

"Ges i ddiagnosis o ganser pan yn 12 oed," meddai.

"Es i i'r ysbyty ac o'n nhw'n meddwl bo 'da fi appendicitis ond nathon nhw ddod o hyd i diwmor cancerous ac yna roedd rhaid iddyn nhw gael fy ofari arall allan achos bod peryg i'r canser ddod 'nôl.

"O'n i mewn a mas o'r ysbyty am tua chwe mlynedd ar ôl cael diagnosis o ganser - ac o'n i'n cael llawer iawn o lawdriniaethau drwy'r amser.

"O'dd hwnna yn meddwl bo fi methu dawnsio am chwech i wyth wythnos ar ôl surgery. Ro'dd rhaid i fi eistedd allan a gwylio. O'n i wastad wedi bod yn dawnsio ar lwyfan a pherfformio.

"Er gwaethaf popeth o'n i'n benderfynol i gyrraedd lle o'n i eisiau bod a dilyn fy mreuddwydion - felly 'nes i fyth stopio dawnsio a nawr dwi'n ddawnswraig broffesiynol."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mary ei bod hi'n hollbwysig i bobl siarad am eu profiadau

Yn ôl ffigyrau Cancer Research UK mae oddeutu 7,500 o achosion o ganser yr ofari yn y DU bob blwyddyn - mae'n ganser sy'n effeithio fwya' ar fenywod hŷn ac mae nifer yr achosion ymhlith plant yn brin iawn.

"Dwi bellach yn credu bod hi mor bwysig siarad am be sy' wedi digwydd - nid jyst er mwyn fy hun ond er mwyn pobl eraill hefyd," ychwanega Mary.

"Yn ddiweddar dwi wedi bod yn codi arian i Ovarian Cancer Action drwy wneud zumbathons a rhedeg marathons a flwyddyn nesaf dwi eisiau rhedeg marathon Llundain i godi mwy o arian.

"Dwi'n gwybod bod stori fi yn gallu helpu pobl eraill.

"Yn 12 oed byddai wedi bod yn beth da i fi glywed stori rhywun tebyg i fi - mae mor bwysig siarad a rhannu profiad."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mary a'i chwaer Madeleine, pan yn iau, yn rhedeg i godi arian i ymchwil canser

Wedi cwblhau ei gradd mae Mary yn gobeithio dawnsio mewn sioeau yn Llundain ac yna mynd ar long a pherfformio fel dawnswraig broffesiynol ar draws y byd.

Os ydy'r stori yma wedi cael effaith arnoch mae gwybodaeth a chymorth ar gael ar wefan Action Line y BBC.