Anna Davies: 'Dwi'n byw er mwyn peintio'
- Cyhoeddwyd
Gwnaeth yr artist Anna Davies o Brestatyn benderfyniad flynyddoedd yn ôl y "byddai'n peintio be o'n i isio peintio" ac na fyddai hi'n cyfaddawdu i bobl eraill.
Mae'r artist, sydd wedi byw yn Nottingham ers blynyddoedd ond sydd yn gobeithio dychwelyd i Gymru dros y flwyddyn nesaf, yn arddangos ei gwaith yn Oriel Ffin y Parc tan 24 Mai.
Yma, mae Anna yn ein tywys trwy ei gwaith:
Creu cymeriadau gyda llyfr ffôn
Wnawn ni ddechrau yn fan'ma, mae 'na un llun o'r enw Bridget yn yr addangosfa yn Ffin y Parc. Be faswn i'n ei ddweud ydy mod i'n gweithio efo paent olew a'r rhan fwyaf o'r amser dwi'n peintio lluniau o bobl.
Dwi'n licio peintio pobl, dydyn nhw ddim yn bobl go iawn y rhan fwyaf o'r amser. Dwi'n defnyddio dychymyg. Dwi'n defnyddio darnau o collage arnyn nhw felly y Bridget 'da ni'n edrych arni rŵan - mae'n ddarlun sgwâr a mae'r cefndir yn biws.
Mae'r llygaid yn biws hefyd a mae rheina wedi cael eu gwneud o blobs o baent olew sydd wedi sychu ar ddarnau o telephone directory, achos y ffordd dwi'n gweithio.
Unwaith dwi 'di gorffen peintio am y diwrnod wna i llnau'r paled efo cyllell a chlirio'r paent i ffwrdd a'i sychu fo ar telephone directory a wedyn dwi gyda lein ddillad yn y stiwdio lle dwi'n hongian y llyfrau ffôn.
Wedyn wna i fynd drwy'r darnau yna, ymlacio fy ymennydd a gweld be fasa'n gweithio gyda'r tameidiau o'r llyfrau ffôn sydd â phaent wedi sychu.
Efo Bridget, wnes i weld y blobs piws yma a meddwl fasa rheina yn 'neud llygaid neis, a wedyn dwi'n torri y darn allan o'r dudalen a'i roi o ar ddarn o ford a chwarae o gwmpas i weld be' sy'n gweithio.
Na'th y darlun yma gael ei ysbrydoli gan brint wnaeth Bridget Riley 'neud, artist o'r 1960au. Dyna pam taw ei henw hi ydy Bridget. Mae'r sgarff oren fel ei bod hi'n hedfan yn y gwynt.
Dal cymeriad mewnol
Dwi'm yn trio neud llun sydd ddim yn edrych fel rhywun, dim dyna dwi'n drio ei 'neud. Be' dwi'n drio ei 'neud ydy 'neud llunia' sy'n portreadu sut mae'n teimlo i fod yn fyw, jest fel trio dal yr inner life o rywun, a mae o mor bwysig cael y llinellau a'r onglau yn iawn, achos os ti'n rhoi llygad mewn ongl wahanol, fydd yr emosiwn yn wahanol.
Mae'r darn yna o'r broses yn cymryd andros o hir. Unwaith dwi wedi plotio'r cymeriad allan gyda siarcol wna i ddechra' peintio efo cyllill paled, fy mysedd a brwshys. Dwi ddim yn draddodiadol yn y ffordd dwi'n gweithio ond dwi'n 'neud be dwi angen 'neud i gael be dwi isio.
'Dydi pawb ddim yn licio fy ngwaith'
Be' dwi'n licio efo celf ydy fod pawb yn ymateb yn wahanol iddo fo. Mae 'na lot o bobl sy'n dod at fy ngwaith i ddim yn licio fo a dyna sut mae o 'de.
Ges i arddangosfa mewn oriel yn Llundain unwaith a mi ddywedodd dyn, "Oh no I don't like your work". 'Nes i ddweud, "that's interesting, why not?" a nath o ddeud fod o'm yn licio sut dwi'n neud y llygid, mod i'n torri'r llygid allan a mi nes i ddechre deud, "Oh no, that's not what it is at all" a 'nes i ddechrau meddwl, 'na, dyna sut mae o'n edrych arnyn nhw a mae hynna yn valid dydi'. Dwi'n methu deud wrtho fo dyna sut mae o.
'Nes i 'neud y penderfyniad flynyddoedd yn ôl bo' fi yn gorfod peintio be o'n i isio peintio. Dwi wedi gweithio mewn gwahanol swyddi er mwyn cael yr arian i beintio be dwi isio, rŵan dwi'n lwcus achos dwi'n gallu peintio llawn amser a dal i 'neud be dwi isio 'neud.
'Dyna pam dwi'n byw, er mwyn peintio'
Dwi'n cofio pan o'n i dal yn ysgol a ddim yn gwbod be o'n i isio 'neud a meddwl am fynd i goleg celf a Mam ddim yn gadael i fi neud, ond 'nes i erioed feddwl fod o'n ffordd o 'neud arian.
Do'n i'm yn 'nabod neb oedd yn peintio ond dwi'n cofio peidio gwybod be o'n i isio 'neud am flynyddoedd a 'neud unrhyw fath o waith fel waitressing, gwaith gofal a pan o'n i tua 30 nes i sylweddoli bo' raid fi wrach mynd nôl i coleg a graddio mewn rhywbeth.
Faswn i wedyn yn gallu cael gwaith rhan amser a chael digon o arian drwy hynny. Dyna be' wnes i cyn cymhwyso a gweithio fel llyfrgellydd am 16 mlynedd, wastad yn rhan amser a wastad yn peintio.
Dwi wedi gwneud bob math o waith; gweithio yn y theatrau a neud propiau a pheintiadau tirwedd. O'n i'n licio hynny ond o'n i'n sylweddoli pan o'n i'n 'neud rwbath creadigol fel gwaith do'n i ddim wedyn isio peintio.
Dyna pam dwi'n byw, er mwyn peintio.
Creu a rhoi pris ar ddarn o gelf
Dwi fel arfer efo mwy nag un darn ar y go. Oherwydd bo' fi'n gweithio efo olew maen nhw'n cymryd amser, mae'n rhaid i fi aros i'r haen yna sychu cyn gweithio gyda haen arall.
Ers i fi beintio'n llawn amser, dwi'n cynhyrchu pedwar llun y mis, felly un darlun bob wythnos.
Mae wedi cymryd lot o amser i ffeindio be' sy'n teimlo'n iawn o ran prisio fy nghelf. Dwi'n prisio nhw rŵan yn dibynnu ar y maint oherwydd os faswn i yn prisio yn ôl faint o amser mae o wedi gymryd fasa pobl yn talu am fy nghamgymeriadau a dwi'm yn meddwl bod hwnna yn deg.
Dwi jest yn edrych ar faint mae pobl erill yn prisio a thrio cael synnwyr o be' sydd i'w weld yn iawn. Mae o'n anodd efo faint mae pethau yn costio rŵan, mae'r deunyddiau yn costio mwy a mae o i weld yn lot o arian am un darn, ond mae'r darnau'n unigryw.
Dychwelyd i Gymru
Faswn i'n rili licio dod nôl i Gymru. Dwi'n gwybod yn bendant bo' fi ddim isio marw yn Lloegr a dwi dros hanner cant rŵan, a hefyd dwi efo stiwdio adra a mae o reit fach a dwi 'di tyfu rhy fawr i'r stiwdio.
Mae hwnna yn rheswm da i symud felly dwi'n gobeithio flwyddyn yma nawn ni symud yn ôl i Gymru.
I glywed rhagor gwrandewch ar sgwrs Anna ar raglen Ffion Dafis, Radio Cymru.
Hefyd o ddiddordeb: