Cymru'n colli ar ddechrau eu hymgyrch Euro dan-17
- Cyhoeddwyd
Cafodd Cymru gweir o 3-0 gan Hwngari yn eu gêm gyntaf erioed ym mhencampwriaeth Euro dan-17 nos Fercher.
Dyma'r tro cyntaf i dîm dan-17 Cymru sicrhau eu lle yn y gystadleuaeth, sy'n cael ei chynnal yn Hwngari.
Er mai Cymru gafodd y gorau o'r chwarae yn yr hanner cyntaf, Hwngari aeth ar y blaen cyn yr egwyl, gyda Benedek Simon yn curo'r amddiffynnwr Brayden Clarke a rhwydo gyda'r droed chwith.
Dyblwyd y fantais gyda 15 munud i fynd, gyda'r eilydd Szilard Szabo yn sgorio ar ôl i'r golwr Kit Margetson arbed ergyd Csaba Milan Molnar.
Aeth pethau o ddrwg i waeth i'r Cymry ifanc bum munud yn ddiweddarach, wrth i Adam Umathum benio i'r rhwyd o gic gornel i roi'r gêm ymhell tu hwnt i afael Cymru.
Bydd Cymru'n herio Iwerddon brynhawn Sadwrn yn eu hail gêm yng Ngrŵp A, cyn wynebu Gwlad Pwyl nos Fawrth nesaf.