'Siom' bod gormod dal yn aros dwy flynedd am driniaeth
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi ysgrifennu at y byrddau iechyd i fynegi ei "siom" wedi iddyn nhw fethu â chyrraedd y targed ar gyfer pobl sy'n aros dros ddwy flynedd am driniaeth.
Mae dros 30,000 o atgyfeiriadau am driniaeth GIG lle mae cleifion wedi bod yn aros am fwy na dwy flynedd - er gwaethaf targed gan Lywodraeth Cymru i ddileu'r rhai sy'n aros hiraf erbyn hyn.
Wrth gyhoeddi'r data perfformiad diweddaraf y GIG ar gyfer Cymru, mae'r llywodraeth hefyd wedi dangos am y tro cyntaf y saith arbenigedd sydd ddim wedi dod o dan y targed oherwydd eu bod yn "eithriadol o heriol".
Y rhain yw dermatoleg, llawfeddygaeth gyffredinol, offthalmoleg, wroleg, gynaecoleg, orthopaedeg a chlust, trwyn a gwddf - sy'n cyfrif am 27,400 o atgyfeiriadau.
Fodd bynnag, mae 17 maes ychwanegol lle mae cleifion wedi bod yn aros am fwy na dwy flynedd.
Dywedodd y llywodraeth bod GIG Cymru yn "parhau i weld galw eithriadol uchel," gydag 1.4m o atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiadau ysbyty yn ystod y flwyddyn ddiwethaf - sy'n cyfateb i bron i hanner poblogaeth Cymru.
"Mae'n rhaid i'r achosion mwyaf brys gael eu blaenoriaethu o hyd, ond rydw i'n disgwyl i fyrddau iechyd weithio drwy eu rhestrau aros yn gyflymach," meddai Eluned Morgan.
"Mae hyn yn cynnwys drwy drin pawb yn eu tro; cynyddu'n sylweddol nifer yr amseroedd aros hiraf sy'n cael sylw drwy fwy o achosion dydd; darparu gwelyau gofal wedi'i gynllunio penodol wedi'u neilltuo; defnydd mwy effeithlon o theatrau; a lleihau nifer yr achosion o ganslo, dechrau'n hwyr a gorffen llawdriniaethau yn gynnar."
'Blaenoriaethu'
Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd ei bod hi'n "cymryd fy siâr i o'r cyfrifoldeb", ond bod eraill angen gwneud hynny hefyd.
"Beth sy'n glir yw bod rhai byrddau iechyd yn perfformio'n llawer gwell nag eraill," meddai.
"A beth sy'n bwysig yw bod ni'n tynnu sylw at hynny, a bod pobl yn deall fod tua 95% o bobl sydd ar restrau aros hir yn cael eu gweld o fewn y targed o ddwy flynedd."
Yng Nghymru mae 4.8% o gleifion yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth ysbyty, o'i gymharu â dim ond 0.01% yn Lloegr.
Yn ogystal â methu â chyrraedd yr ail darged a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r ôl-groniad, fe wnaeth y rhestr aros gyffredinol godi am y tro cyntaf mewn pum mis, i 734,700.
Mae'r ystadegau yn cyfeirio at lwybrau cleifion, nid cleifion unigol, oherwydd gallai pob person fod ar fwy nag un rhestr.
Fodd bynnag, mae ystadegwyr yn amcangyfrif bod 576,000 o gleifion yn aros ym mis Mawrth - sy'n gynnydd o fwy na 2,000 ers mis Chwefror.
Tra bod nifer y galwadau i rif 111 wedi codi, a nifer y galwadau lle mae bywyd yn y fantol i 999 heb newid rhyw lawer, cafodd cyfran uwch ymateb o fewn wyth munud, sef 53% - ond mae hynny'n dal i fod ymhell o'r targed o 65%.
Mae'r niferoedd sy'n aros dros blwyddyn am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf - 53,000 - hefyd yn parhau i ostwng, ond mae'n dal i fod ymhell o darged cyntaf Llywodraeth Cymru o ddileu'r amseroedd aros hynny.
O ran triniaeth canser, cyrhaeddwyd y targed 62 diwrnod (o amheuaeth o ganser i driniaeth gyntaf) mewn 55.3% o achosion, gwelliant o 3% ers y mis blaenorol. Ond y targed yw 75%.
Ychwanegodd Eluned Morgan: "Rydw i eisiau gweld mwy o arloesi, fel yn Ysbyty Gwynedd, lle mae mwy na 90% o lawdriniaethau canser y fron yn cael eu cwblhau fel achosion dydd, gan alluogi i gleifion gael eu rheoli'n fwy effeithlon a gwella'n fwy cyfforddus ac yn gynt gartref."
'Annynol'
Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Russell George: "Er bod rhestrau aros yn uchel ar draws y DU, mae arosiadau annynol o ddwy flynedd i'w gweld yn nodwedd o'n GIG Cymreig sy'n cael ei redeg gan Lafur.
"Yn Lloegr, mae'r amseroedd aros hyn bron wedi'u dileu.
"Erbyn hyn mae tair gwaith cymaint o bobl yn aros dwy flynedd yng Nghymru nag sydd o bobl yn aros 18 mis yn Lloegr, er bod gan Loegr 18 gwaith ein poblogaeth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd17 Mai 2023
- Cyhoeddwyd16 Mai 2023
- Cyhoeddwyd5 Mai 2023