Pedwar yn yr ysbyty wedi tân mewn tŷ yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar person wedi eu cludo i'r ysbyty yn dilyn tân mewn tŷ yn Wrecsam.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i'r digwyddiad am 19:50 nos Iau yn ardal Y Wern.
Fe ddywedon nhw bod y tân wedi ei gyfyngu i un ystafell wely yn y tŷ, gan ei ddinistrio'n llwyr, a bod mwg hefyd wedi gwneud difrod i un llawr.
Cafodd y pedwar person eu trin am anadliad mwg, ac un hefyd eu trin am fân anafiadau i'w coes.
Maen nhw'n parhau i ymchwilio i achos y tân, ond yn dweud ei fod yn anfwriadol.