Aberpergwm: Ymdrech i atal ehangu glofa yn methu

  • Cyhoeddwyd
Aberpergwm
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna anghytuno wedi bod dros gynlluniau i ehangu pwll glo Aberpergwm yng Nglyn-nedd

Mae ymgyrchwyr wedi colli brwydr gyfreithiol a oedd yn ceisio atal y gwaith o echdynnu 40 miliwn tunnell o lo o lofa Aberpergwm.

Fe gafodd y cynlluniau i ehangu'r lofa yng Nglyn-nedd eu cymeradwyo yn Ionawr 2022.

Roedd ymgyrchwyr amgylcheddol wedi dadlau y dylai yr Awdurdod Glo, sef y corff trwyddedu, fod wedi ystyried targedau lleihau carbon Llywodraeth Cymru wrth roi'r drwydded i Energybuild.

Roedd Coal Action Network wedi dod ag adolygiad barnwrol yn erbyn y cwmni a Llywodraeth Cymru gan alw am atal y drwydded ond ddydd Gwener fe ddywedodd y barnwr nad oedd caniatáu i'r lofa weithredu yn anghyfreithlon.

Y lofa yw'r unig gynhyrchydd glo caled o safon uchel yng Ngorllewin Ewrop.

Yn ôl Energybuild fydd y rhan fwyaf o'r glo ddim yn cael ei losgi ond yn hytrach yn cael ei ddefnyddio ar gyfer prosesau amgylcheddol, megis puro dŵr.

Mae'n cyflogi dros 180 o bobl gan gynnwys ugain o brentisiaid, ac yn echdynnu 40 miliwn tunnell o lo.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ond dywed ymgyrchwyr fod yr estyniad yn cyfateb i 100 miliwn tunnell o garbon deuocsid yn cael ei ryddhau i'r atmosffer - roedd Llywodraeth Cymru wedi cydnabod fod hynny yn anghydnaws â'i thargedau sero net a'r datganiad o argyfwng hinsawdd.

Sicrhau dyfodol gweithwyr

Wrth ymateb i'r penderfyniad dywedodd llefarydd ar ran Energybuild: "Rydym yn falch gyda chanlyniad yr adolygiad barnwrol.

"Mae'n sicrhau'r dyfodol i 184 o weithwyr presennol, gyda 20 ohonynt yn brentisiaid.

"Gall Aberpergwm nawr barhau â'r cynlluniau wrth symud ymlaen i ddarparu cynnyrch gwerthfawr i farchnadoedd strategol.

"Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i weithio gyda'r awdurdod lleol a'r Senedd i drawsnewid ein gweithrediad i fenter garbon niwtral."

Dywedodd y Coal Action Network eu bod am ystyried eu camau nesaf yn sgil y penderfyniad, ond bod apêl yn bosib.

"Y gallu i Gymru benderfynu ar ei dyfodol ei hun yw'r union beth y cyflwynwyd Deddf Cymru 2017 i mewn i'w wneud, ac rydym am weld y ddeddf yn cael ei defnyddio i greu Cymru fwy cynaliadwy sy'n cefnogi cenedlaethau'r dyfodol.

"Mae gan Lywodraeth Cymru bolisïau cryf yn erbyn glo, ond mae'n methu dro ar ôl tro i'w rhoi ar waith - boed hynny yn Aberpergwm neu ganiatáu'r cloddio glo anghyfreithlon parhaus yn Ffos-y-fran, Merthyr Tudful.

"Mae'r Coal Action Network yn parhau i fod yn ymrwymedig i roi terfyn ar gloddio glofaol Aberpergwm sy'n hybu anhrefn hinsawdd, yn ogystal â chloddio a defnyddio glo ledled y DU."

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu'r eglurder a ddarparwyd gan y llys.

"Byddwn nawr yn ystyried dyfarniad y llys yn fanwl er mwyn deall yn well pa oblygiadau ymarferol y gallai ei gael ar lofa Aberpergwm, a rôl drwyddedu gweinidogion Cymru a'r Awdurdod Glo yn ehangach."

Pynciau cysylltiedig