Abertawe: Miloedd yn gorymdeithio dros Gymru annibynnol
- Cyhoeddwyd
Mae miloedd wedi gorymdeithio drwy strydoedd Abertawe yn galw am annibyniaeth i Gymru.
Wedi ei drefnu gan AUOB (All Under One Banner) Cymru a YesCymru, yn ôl y mudiadau roedd tua 6,000 o bobl yn bresennol.
Hon oedd y rali gyntaf o'i fath eleni, gyda'r mudiadau yn dweud fod 10,000 wedi gorymdeithio drwy strydoedd Caerdydd fis Hydref y llynedd.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, fod yr orymdaith brynhawn Sadwrn yn cael ei chynnal yn sgil "yr anghyfiawnderau rydyn ni'n eu hwynebu fel cenedl - ar ariannu rheilffyrdd, dŵr, a'r ymosodiadau ar brotestiadau heddychlon".
Ychwanegodd mai'r bwriad oedd "amlinellu ein gweledigaeth o wlad well, gyfoethocach a thecach."
Fis Ebrill dywedodd Prif Weinidog y DU, Rishi Sunak, na ddylai rhagor o bwerau gael eu datganoli i Gymru.
Dywedodd wrth gynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig nad oedd pleidleiswyr eisiau i wleidyddion ganolbwyntio ar "dincian cyfansoddiadol".
Datganoli yw'r broses a ddefnyddir gan sefydliadau Cymreig dros feysydd fel y gwasanaeth iechyd ac addysg ers creu'r cynulliad yn 1999, ond sydd erbyn hyn yn Senedd Cymru.
Fis Rhagfyr wnaeth adroddiad yn edrych ar sut y gallai Prydain edrych o dan lywodraeth Lafur y DU fethu â chefnogi galwadau Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, i system gyfiawnder Cymru gael ei datganoli i Gymru.
'Llais go iawn'
Mewn araith cyfeiriodd yr awdur Mike Parker at y rôl sydd gan Gymru i'w chwarae'n rhyngwladol ac "fod angen Cymru annibynnol ar y byd, lle wrth y bwrdd rhyngwladol i wneud ein cyfraniad gwerthfawr iawn".
Dywedodd: "Mae angen gwerthoedd Cymreig ar y byd - cymuned gref, caredigrwydd, cynaladwyedd - ac mae eu hangen ar y llwyfan ehangaf posib. Mae mor syml â hynny.
"Mae gan y wlad hon gymaint i'w rannu…Ond ni all fod hyd nes y byddwn wedi dod o hyd i'n llais ein hunain ac yn medru ei ddefnyddio.
"Ni fydd unrhyw dincian o amgylch yr ymylon o'r setliad presennol yn rhoi llais go iawn i Gymru."
Dywedodd Robin McAlpine, sylfaenydd mudiad Common Weal yr Alban: "Ni all Cymru na'r Alban dreulio gweddill eu dyddiau yn addendwm i Brydain mewn argyfwng.
"Rydyn ni'n fwy na chyrchfan cartref gwyliau neu le i gadw'ch nukes.
"Rydyn ni'n haeddu gwell na gobeithio nad yw beth bynnag sy'n dda i Lundain yn ddrwg i ni - oherwydd mae bob amser yn ymwneud â'r hyn sy'n dda i Lundain.
"Dyna pam rydw i mor hapus i weld ein dau fudiad yn cydweithio i newid ein dyfodol ein hunain."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Medi 2022
- Cyhoeddwyd30 Medi 2022
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2022