Ymchwil newydd yn fwy ffafriol i Gymru annibynnol

  • Cyhoeddwyd
Rali annibyniaeth yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Cyhoeddwyd yr astudiaeth ar drothwy rali o blaid annibyniaeth yng Nghaerdydd

Gallai Cymru annibynnol fod yn wynebu bwlch llawer llai yn ei chyllid cyhoeddus nag y mae amcangyfrifon blaenorol yn ei awgrymu, yn ôl ymchwil newydd.

Yn 2019, amcangyfrifwyd bod y bwlch rhwng derbyniadau treth a gwariant cyhoeddus yn £13.5 biliwn, dolen allanol, ond mae ymchwil newydd, dolen allanol yn awgrymu y gallai fod yn llawer is i ddechrau mewn Cymru annibynnol - gan ddibynnu ar ganlyniad y trafodaethau gwahanu.

Dywedodd Plaid Cymru fod yr ymchwil "yn chwalu'r ddadl fod Cymru'n rhy fach ac yn rhy dlawd i ffynnu fel cenedl annibynnol".

Ond dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod yr adroddiad yn gwneud rhai "proffwydoliaethau gwyllt".

Mae'r ymchwil wedi'i gyhoeddi cyn gorymdaith o blaid annibyniaeth yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn gan Yes Cymru.

DU i dalu pensiynau o hyd?

Yn 2018-19, fe wnaeth Prifysgol Caerdydd gyfrifo diffyg cyllidol net Cymru - y bwlch rhwng refeniw a dderbyniwyd mewn trethi a gwariant ar wasanaethau cyhoeddus - i gyfanswm o £13.5 biliwn.

Roedd y ffigwr yn seiliedig ar sefyllfa bresennol Cymru o fewn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys, er enghraifft, gwariant ar rai prosiectau y tu allan i Gymru.

Ond yn y gwaith ymchwil, a gomisiynwyd gan Blaid Cymru, amcangyfrifodd yr Athro John Doyle o Brifysgol Dinas Dulyn y gallai'r bwlch yn nyddiau cyntaf Cymru annibynnol fod cyn lleied â £2.6 biliwn.

O ran trethiant, mae'r Athro Doyle yn dadlau bod rhai o dderbyniadau trethi Cymru, fel y dreth gorfforaeth, yn cael eu tanamcangyfrifo oherwydd bod pencadlys llawer o gwmnïau sy'n gweithredu yng Nghymru y tu allan i'r wlad.

Mae hefyd yn awgrymu y gallai Cymru annibynnol hefyd wneud arbedion drwy wario llawer llai ar amddiffyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r ymchwil hwn yn chwalu'r ddadl fod Cymru'n rhy fach ac yn rhy dlawd i ffynnu fel cenedl annibynnol," medd Adam Price

Ar hyn o bryd mae gwariant ar bensiynau yn cynrychioli'r rhan fwyaf o wariant Llywodraeth y DU ar gyfer Cymru, sef cyfanswm o £5.9 biliwn yn 2018-19.

Mae'r Athro Doyle yn dadlau y byddai Llywodraeth y DU yn parhau i dalu pensiynau pobl yng Nghymru sydd wedi cyfrannu at bwrs y wlad mewn trethi a chyfraniadau yswiriant cymdeithasol.

Mae'n ddadl sy'n cael ei gwneud ar hyn o bryd gan Lywodraeth yr SNP yn yr Alban, er gwaethaf iddyn nhw ddweud yn refferendwm annibyniaeth yr Alban yn 2014 y byddai'r cyfrifoldeb yn trosglwyddo i Lywodraeth yr Alban.

Yn gynharach eleni, cyhuddodd un o weinidogion Llywodraeth y DU yr SNP o "gamarwain Albanwyr" dros bwy fyddai'n talu eu pensiynau gwladol petasai'r wlad yn annibynnol.

Angen annibyniaeth i dyfu?

O ran y cwestiwn a fyddai Cymru annibynnol yn cymryd drosodd cyfran o ddyled gyhoeddus y DU, dywed yr Athro Doyle na fyddai gan Gymru o reidrwydd unrhyw rwymedigaethau, ond byddai angen cytuno ar y mater "yn wirfoddol, fel rhan o drafodaethau ehangach".

Ond yn eu dadansoddiad a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2020, dywedodd ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd nad oedd "unrhyw gonsensws" mewn cylchoedd cyfreithiol ynglŷn â sut mae "dyledion y wladwriaeth yn cael eu rhannu".

Ychwanegon nhw: "Er y gallai sefyllfa gyllidol etifeddol Cymru annibynnol fod yn wahanol... mae'n debygol y byddai annibyniaeth yn gofyn am newidiadau eang i'r polisïau treth a gwariant presennol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ar ôl cyhoeddi ei bapur, dywedodd yr Athro Doyle: "Nid yw effaith economaidd Cymru annibynnol yn cael ei chyfyngu'n fawr gan y sefyllfa gyllidol bresennol.

"Y dull glasurol ofalus fu dadlau bod angen i economi Cymru, cynhyrchiant Cymru, ac incwm Cymru dyfu er mwyn cau'r bwlch cyllidol a gwneud annibyniaeth yn fwy 'ymarferol'.

"Ond mae hon yn ddadl ffug, mewn ffordd. Beth os nad yw'n bosibl tyfu cynhyrchiant Cymru a'r economi heb yr ysgogiadau polisi sydd ar gael i wladwriaeth annibynnol?

"Ers 50 mlynedd mae CMC (GDP) Cymru y pen wedi aros yn gymharol sefydlog ar 75% o GDP cyfartalog y DU y pen, heb fawr o arwydd o'r math o gydgyfeiriant a welir yn Ewrop rhwng lefelau incwm aelod-wladwriaethau'r UE."

'Cymru ddim yn rhy fach na thlawd'

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS: "Mae'r ymchwil hwn yn chwalu'r ddadl fod Cymru'n rhy fach ac yn rhy dlawd i ffynnu fel cenedl annibynnol.

"Nid yn unig y mae gwaith yr Athro John Doyle yn adeiladu ymhellach y corff o dystiolaeth sy'n cefnogi'r achos dros Gymru annibynnol, mae hefyd yn newid y ddadl ynghylch ei hyfywedd," meddai.

"Dro ar ôl tro, rydym wedi clywed amcangyfrifon gwyllt am y bwlch cyllidol tebygol a fyddai'n bodoli pe baem yn dod yn annibynnol sydd heb unrhyw wraidd mewn realiti.

"Mae hyn yn dangos unwaith ac am byth bod 'economeg ffantasiol' yn cael ei defnyddio gan y rhai sydd yn erbyn nid o blaid annibyniaeth."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith ymchwil yn llawn "proffwydoliaethau gwyllt", medd Andrew RT Davies

Ond dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies AS: "Mae'r adroddiad yn gwneud rhai proffwydoliaethau gwyllt ar yr hyn y byddai Llywodraeth Cymru yn y dyfodol yn ei wneud pe bai Cymru'n dod yn annibynnol.

"Yn y sefyllfa hon byddai Llywodraeth Cymru yn ildio unrhyw gyfrifoldeb i'n cadw ni'n ddiogel - rhoi'r gorau i wariant amddiffyn a rhoi terfyn ar y math presennol o Gymorth y DU i wledydd sy'n datblygu.

"Ac mae'n debyg y byddai gwladwriaeth Cymru yn gallu negodi bargen gyda Llywodraeth y DU er mwyn osgoi talu canran o'r ddyled."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn ystod ymgyrch etholiadol ddiwethaf y Senedd yn 2021, cynigiodd Plaid Cymru refferendwm annibyniaeth o fewn pum mlynedd pe bai'n dychwelyd i rym.

Ond roedd y blaid yn drydydd yn yr etholiad, y tu ôl i Lafur a'r Ceidwadwyr - dwy blaid sy'n cefnogi'r DU.

Dywedodd Adam Price yn gynharach eleni y bydd annibyniaeth Cymru yn "cymryd yn hirach nag y byddwn yn ei obeithio".

Yn y pôl piniwn Cymreig, dolen allanol diwethaf, dywedodd 24% o bobl y bydden nhw'n cefnogi Cymru annibynnol petai refferendwm yn cael ei chynnal fory.

Dywedodd dros hanner (52%) y bydden nhw'n pleidleisio 'Na' i annibyniaeth, tra bod 14% ddim yn gwybod sut y bydden nhw'n pleidleisio.

Petai yna refferendwm ar ddileu'r Senedd, dywedodd 26% y bydden nhw'n pleidleisio 'Ie', gyda 46% yn cefnogi 'Na', a 17% yn dweud nad oedden nhw'n gwybod sut y bydden nhw'n pleidleisio.

Holodd YouGov 1,014 o bleidleiswyr Cymreig, 16 oed a hŷn, rhwng Medi 20-22 ar gyfer ITV Cymru Wales a Phrifysgol Caerdydd.