Arestio dyn wedi marwolaeth 'anesboniadwy' dynes, 26
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ei arestio yn dilyn marwolaeth "sydyn ac anesboniadwy" dynes 26 oed.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dŷ ar Ffordd Caerdydd yn Aberaman, Aberdâr am tua 03:00 fore Mercher, 17 Mai.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod dyn 33 oed, o Aberaman, wedi'i arestio a'i ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal.
Mae'r llu wedi apelio i'r cyhoedd am wybodaeth.