Euro dan-17: Gweriniaeth Iwerddon 3-0 Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru yn parhau heb yr un pwynt ym Mhencampwriaeth o dan-17 Ewrop yn dilyn colled yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.
Wedi colli o 3-0 yn erbyn Hwngari yn eu gêm agoriadol, roedd Cymru angen canlyniad yn erbyn eu cefndryd Celtaidd i gadw eu gobeithion o barhau yn y gystadleuaeth yn fyw.
Ond roedd Gweriniaeth Iwerddon ar y blaen yn Felcsút wedi 21 munud.
Er i Armstrong arbed cic o'r smotyn Naj Razi, llwyddodd chwaraewr Shamrock Rovers i rwydo pan ddisgynnodd y bêl yn rhydd yn y cwrt, er mawr siom i'r gôl geidwad.
Roedd gwaeth i ddod i'r Cymry ifanc cyn yr egwyl wrth i Ike Irazi ddyblu mantais y Gwyddelod wedi 34 munud.
Yn wynebu talcen caled i achub eu pencampwriaeth, gwthiodd tîm Craig Knight ymlaen yn yr ail hanner.
Ond roedd eu gobeithion ar ben, i bob pwrpas, yn dilyn ergyd wefreiddiol Akachukwu i'w gwneud hi'n 3-0 ar ôl awr.
Bydd gêm olaf Cymru yn y grŵp yn erbyn Gwlad Pwyl nos Fawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2023