Galw i warchod traeth ym Môn rhag parcio answyddogol
- Cyhoeddwyd
Mae cymuned ym Môn yn galw ar yr awdurdodau i rwystro ceir a cherbydau gwersylla rhag parhau i barcio ar lwybr answyddogol sy'n arwain at draeth gwarchodedig.
Mae'r cyngor cymuned lleol yn poeni am ddiogelwch ac erydiad ar draeth Lleiniog, ger Penmon, ac yn gofyn i Gyngor Môn weithredu.
Mae'r traeth yn ardal ddynodedig o ddiddordeb gwyddonol arbennig ac yn cynnwys rhan o Lwybr Arfordirol Ynys Môn, sy'n boblogaidd gan gerddwyr.
Mae hefyd yn nodedig am y nifer o gerrig rhewlifol o bwys sydd yno, gan ddenu gwyddonwyr a daearegwyr i'w hastudio.
"Dydyn ni wir ddim eisiau i bobl barcio lawr yno, nid yn unig er eu diogelwch eu hunain, gan yrru cerbyd mor agos at ymyl y dŵr, ond yn bennaf i atal erydiad pellach," meddai clerc Cyngor Cymuned Llangoed a Phenmon, Alun Foulkes.
"'Da yn ni ddim eisiau rhwystro pobl rhag mwynhau'r ardal - dim ond gofyn i bobl beidio â pharcio yno."
Fe ychwanegodd ei fod yn credu bod gwaith diweddar gerllaw wedi gwneud i'r cyhoedd feddwl fod mynediad yn gael ei ganiatáu, yn dilyn cais cynllunio i sefydlogi amddiffynfeydd môr ar hyd y Fenai.
"Bu llawer o waith yn yr ardal yn dilyn y cais cynllunio.
"Rwy'n meddwl bod angen i'r cyngor gau pen draw'r maes parcio fel na all cerbydau fynd drwodd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mai 2023
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2021