Rhybudd wedi i ferch, 10, wario £2,500 ar Roblox

  • Cyhoeddwyd
RobloxFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae modd uwchraddio cymeriad a chwarae gemau ychwanegol am bris

Mae mam o Ddyserth yn Sir Ddinbych yn rhybuddio rhieni eraill i fod yn wyliadwrus wedi i'w merch 10 oed wario £2,500 wrth iddi chwarae y gêm ar-lein Roblox.

Dywed Georgina Munday iddi fynd i banig wedi iddi ddarganfod beth oedd ei merch wedi'i wneud a hynny heb iddi sylweddoli.

Fe wnaeth y banc wrthod ag ad-dalu'r arian i'w chyfrif yn wreiddiol ond mae nhw bellach wedi newid eu meddwl wedi i Georgina gysylltu â rhaglen You and Yours ar Radio 4.

Dywed cwmni Banc Tesco eu bod wedi "ymddiheuro" i'r teulu ac mae Roblox yn dweud bod "ganddyn nhw bolisi cadarn o ran dychwelyd arian" ar gyfer gwariant na sydd wedi ei awdurdodi.

Mae Roblox yn galluogi defnyddwyr i greu eu gemau eu hunain ac yn cynnig cyfleon i uwchraddio'r 'avatar' am bris - gallai hynny gynnwys prynu dillad i'r cymeriad neu dalu am yr hawl i chwarae gemau eraill.

Dywed Georgina Munday, 44, bod ei merch, sydd ag awtistiaeth, wedi bod yn chwarae ar ei thabled fwy yn ddiweddar am nad yw'n mynd i'r ysgol ar hyn o bryd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed cwmni Roblox bod modd i rieni ddefnyddio hawliau penodol sy'n nodi faint y dylai plant ei wario

Yn wreiddiol roedd Ms Munday yn credu bod y cyfrif wedi cael ei hacio ond yn fuan daeth yn amlwg bod y ferch ddeg oed wedi llwyddo i newid ei chyfrinair er mwyn galluogi'r taliadau.

"Fe welon ni fod cannoedd o daliadau wedi'u cadarnhau - ac yna roedd yna banig mawr wrth i ni ofyn ar ba gerdyn?"

Roedd ei merch wedi llwyddo i wario dros £2,500 ar y safle - y mwyafrif o'r arian yn symiau bach o £20.

'Amser ofnadwy'

Am oddeutu wythnos roedd Georgina, sy'n nyrs, yn cysylltu ag Apple a Banc Tesco yn barhaus er mwyn ceisio cael ad-daliad ond fe wrthododd y ddau gwmni - roedd e'n amser "ofnadwy", meddai.

"Roedd o'n amser hynod o bryderus. Dwi ddim yn gweithio ar hyn o bryd. Rwy'n edrych ar ôl fy merch. Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn anodd ac efallai nad oeddem yn canolbwyntio gymaint ar yr hyn oedd yn digwydd.

"Ro'n i'n poeni y byddai'n rhaid i ni ad-dalu'r arian fesul dipyn dros y blynyddoedd nesaf.

"Fe ffoniais i Fanc Tesco ac ar y dechrau fe ddywedon nhw nad oedd hi'n bosib iddyn nhw wneud dim byd gan mai'r ferch oedd wedi gwneud y taliadau.

"Felly 'nes i drio Apple eto - ac fe wnaethon nhw ddarllen eu telerau ac amodau ac yna fe gysylltais i â rhaglen defnyddwyr, You and Yours.

"O fewn diwrnod fe wnaeth y banc ddweud wrtha'i y byddent yn ad-dalu'r swm yn llawn a do, mi wnes i grio wrth i'r pwysau godi oddi arnaf."

Ffynhonnell y llun, Ciplun o Roblox
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Georgina Munday ddim am i'w merch chwarae'r gêm eto

Mae Apple yn nodi bod modd gosod cyfrifon fel bod rhiant yn cael rhybudd pan mae plentyn yn prynu rhywbeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Banc Tesco: "Ry'n wedi adolygu yr achos yma ymhellach ac wedi cytuno i ad-dalu Ms Munday yn llawn.

"Ry'n yn ymddiheuro na ddigwyddodd y trefniant hwn pan wnaeth hi gysylltu â ni gyntaf ac ry'n wedi trefnu taliad ychwanegol iddi fel arwydd o ewyllys da."

Dywed Georgina nad yw'n ymuno i'w phlentyn chwarae'r gêm rhagor.

"Roedd hi'n gwybod be' oedd hi'n ei wneud, fe newidiodd hi'r cyfrinair ond dwi'm yn meddwl bod hi'n deall maint yr hyn wnaeth hi."

Ychwanegodd bod yn rhaid i rieni fod "yn wyliadwrus" am yr hyn y mae eu plant yn ei wneud.

"Mae plant un cam ar y blaen y dyddiau 'ma. roedden ni'n meddwl bod Roblox yn gêm ddiniwed ond roedd yna fyd allan yna doeddwn ni ddim yn gwybod dim amdano."

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Roblox: "Mae gan Roblox bolisi cadarn o ran prosesu ceisiadau am ad-daliad wedi gwariant na sydd wedi ei awdurdodi.

"Yn ogystal mae modd i rieni ddefnyddio hawliau penodol sy'n nodi faint y dylai eu plant wario ac mae modd i rieni gael eu hysbysu os yw gwariant plentyn yn cynyddu."

Pynciau cysylltiedig