400 o swyddi yn y fantol mewn ffatri fwyd
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni cynhyrchu bwyd wedi cyhoeddi bwriad i gau eu ffatri yn Y Fenni, gan roi 400 o swyddi yn y fantol.
Mae Avara Foods yn un o gwmnïau bwyd mwyaf y DU, sy'n cyflenwi cig cyw iâr a thwrci i archfarchnadoedd a bwytai.
Dywed y cwmni eu bod wedi gorfod gwneud toriadau oherwydd costau cynyddol yn dilyn pandemig Covid-19.
Edrych ar opsiynau
Fel rhan o'r toriadau maen nhw yn bwriadu cau eu ffatri yn Y Fenni yn Hydref 2023.
Dywedodd llefarydd ar ran Avara Foods eu bod wedi edrych ar sawl opsiwn dros y chwe mis diwethaf gan gynnwys newid defnydd y ffatri yn Y Fenni.
"Yn anffodus mae'r broses yma wedi amlygu'r ffaith y gallwn gynhyrchu'r un faint o gynnyrch yn fwy effeithiol mewn llefydd eraill gyda llai o angen am fuddsoddiad," meddai.
Mae'r cwmni ar fin dechrau ar gyfnod o ymgynghori gyda'r gweithlu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2023