Dathlu'r cylchgrawn gwerin Llafar Gwlad
- Cyhoeddwyd
Bydd rhifyn olaf o'r cylchgrawn Llafar Gwlad yn y siopau ac yn cyrraedd ei danysgrifwyr triw drwy'r post dros yr wythnosau nesaf.
Mae Llafar Gwlad yn gylchgrawn chwarterol sydd wedi bodoli ers Eisteddfod Genedlaethol Llangefni 1983 ac yn trafod llên gwerin, iaith lafar, crefftau, hanes lleol, cymeriadau a hiwmor cymunedau gwledig Cymru.
Yma, Andrew Hawke o Geiriadur Prifysgol Cymru sy'n trafod sut mae'r geiriadur wedi elwa o'r iaith lafar sydd wedi ei gofnodi yn Llafar Gwlad dros y blynyddoedd.
Llafar Gwlad wedi bod yn gydymaith cyson i'r Geiriadur
Ymddangosodd rhifyn cyntaf y cylchgrawn Llafar Gwlad 40 mlynedd yn ôl, ac ers hynny daeth pedwar rhifyn y flwyddyn yn rheolaidd o Wasg Carreg Gwalch. Y mis hwn, er tristwch i lawer, bydd y rhifyn olaf un, rhifyn 160 yn ymddangos.
John Owen Huws oedd y golygydd gwreiddiol gyda Robin Gwyndaf yn olygydd ymgynghorol. Roeddwn i newydd ddechrau fel cyw-eiriadurwr gyda Geiriadur Prifysgol Cymru ar y pryd ac mae Llafar Gwlad wedi bod yn gydymaith cyson ar hyd y daith.
Mae Myrddin ap Dafydd wedi bod yn gysylltiedig â'r cylchgrawn o'r cychwyn fel cyfrannwr, cyhoeddwr a golygydd ac mae'r penderfyniad i ddwyn y cylchgrawn i ben ar ôl 40 mlynedd yn gwbl ddealladwy. Ein lle ni yw dathlu cyfraniad Llafar Gwlad dros gyfnod estynedig.
Mae Geiriadur Prifysgol Cymru (sydd ar gael ar lein yn gpc.cymru) wedi elwa'n gynyddol dros y blynyddoedd o'r cylchgrawn a'i gynnwys amrywiol cyfoethog. Mae GPC wedi dyfynnu o'r cylchgrawn 119 o weithiau eisoes, ac mae 31 o ddyfyniadau eraill mewn erthyglau sydd heb eu cyhoeddi hyd yn hyn.
Dim blotyn gwaeth
Mae'r dyfyniadau'n amrywiol iawn, gan gynnwys geiriau llafar lleol o dref Caernarfon fel 'bwl' (= coron (darn o arian gwerth 25c) o'r Saesneg, bull) a 'sgrin' o'r Saesneg screen (= papur punt), ac ymadroddion fel 'dim blotyn gwaeth' (= dim mymryn gwaeth) o Lŷn ac Eifionydd a 'sgrympiau codi tatws' (= cawodydd sydyn o law trwm ddiwedd yr haf neu ddechrau'r hydref) o Lŷn, a'r ferf 'blasenwi' (= llysenwi) o Rosllannerchrugog.
Beiro a geiriau cyffredin eraill
Dyfynnir geiriau ac ymadroddion hollol gyffredin, gan gynnwys yr enghraifft gynharaf y daethpwyd o hyd iddi o 'adeilad cofrestredig' a'r gair 'rep' (= cynrychiolydd), ac enghreifftiau o eiriau hollol gyffredin ond newydd i'r Geiriadur fel 'beiro', 'bwji', 'Brymi', 'cornbîff', 'cwcer' a 'titsiar' (a 'titsieres').
Cofnodion o fyd natur
Fel y byddech yn ei ddisgwyl, ceir llu o enghreifftiau o fyd natur, fel 'aderyn naw' (o'r gloch) (= nightjar), 'breithaden' (= ji-binc), 'rhegen rhyg' (= corncrake) yn y Gogledd, 'trochydd danheddog copog' (= hooded merganser) a 'tresglen y crawel' (= brych y coed). Cofnodir 'penbola' (= penbwl) o Gwmtawe a 'siodo' (= bwrw grawn (am samwn)) o Sir Benfro.
Awydd gêm o Pont y Glaw?
Ceir enwau ar gemau plant, fel 'pont y glaw' (sy'n debyg i'r chwarae plant 'Oranges and Lemons') a 'chwarae powl' neu 'powlyn' (cylch haearn). Dysgwn fod 'stago' yn "derm pan mae'r farblen yn methu symud ymlaen oherwydd mwd, baw a.y.b.". Ac ym Mhenmachno, gelwid 'tip' (o'r Saesneg tip (= ergyd ysgafn)) ar "gêm i unrhyw nifer… gydag un plentyn yn rhedeg ar ôl y gweddill".
Geiriau o fröydd y chwareli
Mae geiriau o fyd y chwareli a ddyfynnwyd yn GPC yn cynnwys yr ymadrodd 'diwrnod smit' (o'r Saesneg submit) yn golygu 'diwrnod gwaith a gollwyd oherwydd tywydd gwael', tra bo 'smit bodlon' yn golygu 'glaw wedi stopio'r gwaith (e.e. cneifio) am y diwrnod' yn Ysbyty Ifan.
O fewn trwch plisgyn rhech
Mae GPC wedi dyfynnu nifer o enwau ac ymadroddion lliwgar a dyfeisgar o'r cylchgrawn, fel 'o fewn trwch plisgyn rhech' (= agos iawn), pwmpio (= rhechain), 'digon oer i rewi tegell ar ben tân', a 'tarten harten' (cacen sy'n cynnwys llawer o fraster a siwgr). Dysgwn fod rhai o bobl Llŷn yn dweud 'wyau wiwer' am 'ffa pob'.
Yn ôl Llafar Gwlad, mae Swancs Llangollen yn llysenw ar drigolion y dref honno fel y mae Shilgots Trewyddel (o silcod) yn llysenw ar drigolion y pentref hwnnw yn Sir Benfro. Ar y llaw arall, llysenw trigolion Pen-y-bont ar Ogwr oedd 'tlawd a balch' a Sgadan Abergwaun yw un o drigolion y dref bysgota honno.
Ffarwelio â Llafar Gwlad
Dan y ferf 'talu' yn GPC, dyfynnir mai "Mallwyd oedd y pentref olaf i ddilyn yr hen draddodiad sydd yn nodweddiadol o Fawddwy, sef talu y siot. Nid oedd hwn ond esgus i anfon yr ymadawedig ar ei ffordd mewn môr o gwrw", sy'n dod â ni 'nôl at ffarwelio â Llafar Gwlad.
Hawdd gweld, felly, fod Llafar Gwlad wedi bod yn gloddfa wirioneddol werthfawr i olygyddion y Geiriadur dros y deugain mlynedd diwethaf, yn enwedig ar gyfer yr iaith lafar fyw. Ni allwn ond gobeithio y daw rhywbeth i gymryd ei le, gan ddiolch i Myrddin ap Dafydd a'i gyfranwyr selog am ei gadw mor ddifyr a gwerthfawr dros gymaint o amser.
Hefyd o ddiddordeb: