Buddugoliaeth ar ddiwedd ymgyrch Cymru yn Euro dan-17
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd Cymru i drechu Gwlad Pwyl o 3-0 i orffen eu hymgyrch ym Mhencampwriaeth Ewrop dan-17 ar nodyn uchel.
Roedd y Cymry ifanc eisoes yn gwybod y bydden nhw'n dychwelyd adref ar ddiwedd y gemau grŵp ar ôl colli i Hwngari a Gweriniaeth Iwerddon.
Ac roedd hi'n edrych fel y bydden nhw'n wynebu noson anodd arall yn erbyn y Pwyliaid, oedd eisoes wedi ennill y grŵp.
Ond ar ôl gwrthsefyll pwysau'r ffefrynnau, fe aeth y Cymry ar y blaen gyda llai na 10 munud i fynd wrth i Gabriele Biancheri o Manchester United benio i gefn y rhwyd o groesiad Freddie Issaka.
Seliwyd y fuddugoliaeth gydag 89 munud ar y cloc wrth i Iwan Morgan o Abertawe ganfod cornel isaf y rhwyd gydag ergyd oddi ar ei droed chwith.
Ac fe roddodd y Cymro Cymraeg ragor o sglein ar y fuddugoliaeth funud yn ddiweddarach, wrth iddo gasglu pas Charlie Crew cyn tanio ergyd wych i'r gornel uchaf.
Dyma oedd y tîm ieuenctid cyntaf o Gymru i gyrraedd rowndiau terfynol twrnament pêl-droed rhyngwladol dynion ers 1981.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2023
- Cyhoeddwyd20 Mai 2023