Cymru yn 'methu tric' drwy beidio datganoli dŵr
- Cyhoeddwyd
Chwe blynedd wedi iddi ddod yn ddeddf gwlad, nid yw rheolaeth lawn dros bolisi dŵr wedi'i throsglwyddo i Lywodraeth Cymru o hyd.
Mae arbenigwyr yn credu y gallai cael y pwerau roi hwb economaidd enfawr i Gymru.
Mae'r gweinidog cabinet a lywiodd y mesur drwy'r Senedd, a drosglwyddodd y pwerau, yn dweud ei fod wedi'i syfrdanu nad yw wedi digwydd eto.
Dywed llywodraethau Cymru a'r DU nad oes cynlluniau i'w trosglwyddo yn y dyfodol agos.
Chwe blynedd o oedi
Mae gwleidyddiaeth dŵr yng Nghymru yn fater llawn emosiwn.
Roedd boddi Capel Celyn i ddarparu dŵr i Lerpwl bron i 60 mlynedd yn ôl, yn foment hollbwysig, yn dangos nad oedd gan Gymru unrhyw reolaeth dros bwy allai ddefnyddio ei hadnoddau naturiol.
Roedd y pŵer dros bolisi dŵr i fod i gael ei drosglwyddo i Gymru chwe blynedd yn ôl o dan Ddeddf Cymru 2017, ond dyw hynny ddim wedi digwydd.
Alun Cairns AS oedd yr Ysgrifennydd Gwladol a roddodd y mesur drwy'r Senedd i ganiatáu i hyn ddigwydd.
Mae'n dweud ei fod wedi ei syfrdanu.
"Mae wedi golygu bod Llywodraeth Cymru wedi cael y cyfle i reoli'r cyflenwad, a'r dylanwad ynghylch polisi dŵr, a'r penderfyniadau ynglŷn â pholisi dŵr, ond wedi penderfynu peidio â'i gymryd," meddai.
"Rwy' wedi'n syfrdanu a ffili credu'r peth."
'Proses gymhleth'
Mae llythyr a ddaeth i law Plaid Cymru, o ganlyniad i gais rhyddid gwybodaeth, yn dangos mai Llywodraeth Cymru a ofynnodd am i'r prosiect i ddod â'r pwerau i Gymru gael ei roi i'r naill ochr.
Wedi'i ysgrifennu yn ôl yn 2018, mae'n gofyn am oedi tan 2022 cyn datganoli'r pŵer.
Ysgrifennodd Gweinidog Amgylchedd Cymru ar y pryd, Hannah Blythyn at y Gweinidog Amgylchedd yn Llywodraeth y DU, Therese Coffey, gan ddweud: "Mae'r pwerau yn Neddf Cymru 2017 yn galluogi'r swyddogaethau i gael eu rhannu i adlewyrchu rhaniad rhwng Cymru a Lloegr ar hyd y ffin.
"Mae angen gwaith sylweddol i fapio'r holl swyddogaethau hyn ac i benderfynu ar y polisi i'w gymhwyso yn yr ardaloedd unigol.
"Bydd angen datblygu'r ymagwedd gyda'r effaith leiaf bosibl ar gwsmeriaid a'r cwmnïau dŵr.
"Roeddem wedi cytuno'n wreiddiol i alunio ddigwydd ym mis Ebrill 2020.
"Mae hon yn broses gymhleth... Felly, gofynnaf am eich cytundeb i aildrefnu'r dyddiad targed ar gyfer gweithredu'r aluniad i Wanwyn 2022."
'Werth ffortiwn'
Dywed Plaid Cymru fod hyn yn bwysig oherwydd er bod gan weinidogion yng Nghymru rai pwerau dros yr hyn y mae Dŵr Cymru yn ei wneud, nid yw hynny'n wir am gwmnïau dŵr Lloegr, sy'n caniatáu iddynt bibellu dŵr o gronfeydd dŵr Cymru i gwrdd â gofynion dwr yn Lloegr.
Dywedodd llefarydd y blaid dros newid hinsawdd, Delyth Jewell AS: "Ar hyn o bryd, gellir tynnu biliynau o litrau o ddŵr o Gymru bob blwyddyn i'w ddefnyddio yn Lloegr, ac mae hynny'n digwydd ar gost, oherwydd mae'r cwmnïau dŵr yn Lloegr yn canfod bod cael y dŵr hwn yn rhatach na thrwsio pibellau sy'n gollwng.
"Ni all hynny fod yn iawn. Nid yw adnoddau naturiol Cymru yn cael eu defnyddio er budd pobl Cymru."
Mae'r Athro Emeritws Roger Falconer o Brifysgol Caerdydd yn arbenigwr ar wleidyddiaeth dŵr.
Mae'n dweud bod Cymru'n colli tric ac y gallai datganoli pŵer fod yn werth ffortiwn.
"Dŵr yw un o'r nwyddau mwyaf gwerthfawr sydd gennym ar y blaned hon - dŵr ac aer. Ni allwn oroesi heb ddŵr, aer a bwyd.
"Ac os oes gan Gymru gyfle a chyfle i reoli ei dŵr ei hun, yna rwy'n meddwl y dylen nhw gipio hynny cyn gynted â phosibl. Oherwydd bod hwn yn ased rhyfeddol.
"Mae'n llawer mwy gwerthfawr nag olew. Gallwn fyw ar y blaned hon heb olew.
"Ni allwn fyw ar y blaned hon heb ddŵr. Felly dylai Cymru achub ar y cyfle, yn fy marn i, i wneud popeth o fewn ei gallu i reoli ei dŵr hyd eithaf ei gallu.
"Mae'n adnodd dŵr gwerthfawr iawn, iawn. Mae bywyd cyfan yn dibynnu ar ddŵr."
Ond ar hyn o bryd, dywed y ddwy lywodraeth nad oes unrhyw drafodaethau'n cael eu cynnal ar ddatganoli dŵr, ac nid oes ychwaith amserlen o ran pryd y byddan nhw'n ail-ddechrau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2015
- Cyhoeddwyd25 Awst 2022
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2015