Uned ddalfa newydd i 'leihau pwysau' ar yr heddlu yn Llanelli
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi agor uned ddalfa a hwb plismona newydd yn Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd cynghorwyr lleol bod croeso mawr i'r adeilad newydd gwerth £18m yn ardal Dafen gan ei fydd yn lleihau pwysau ar wasanaeth yr heddlu yn Llanelli.
Mae'r adeilad yn defnyddio pŵer solar i leihau ôl troed carbon yr adeilad; cyfleuster cynaeafu dŵr glaw ar gyfer toiledau, a chyfleusterau gwefru ceir trydan.
Yn ôl y comisiynydd Heddlu a Throsedd, Dafydd Llewelyn, roedd nifer o adeiladau'r heddlu yn yr ardal wedi dyddio.
"Mae'r angen [am adeilad newydd] wedi bod yn angen mawr ers nifer o flynyddoedd," meddai.
Mae'r uned yn cynnwys 18 ystafell i ddal troseddwyr, swyddfeydd ac ystafelloedd cyfweld.
Defnyddiodd yr heddlu arian oedd wrth gefn ac arian trethdalwyr i dalu am y fenter, sydd wedi costio £18m.
Yn ôl y comisiynydd, mae creu cyfleusterau tebyg ar draws gweddill ardal Dyfed-Powys yn anodd heb well fuddsoddiad.
"Yn anffodus dydyn ni ddim yn cael cyfraniad cyfalaf gan y Swyddfa Gartref felly mae hwn yn dod allan o arian wrth gefn a hefyd arian trethdalwyr lleol sydd nawr yn mynd ati i fuddsoddi yn nyfodol ardal Dyfed-Powys.
"Mae tipyn o waith i sicrhau bod yr adnoddau ar gael mewn gwahanol ffyrdd ac wrth gwrs adeiladau yn rhan o hynny.
"Bydd ambell i benderfyniad anodd bydd rhaid gwneud ynglŷn â'r adnoddau hynny ond yn y pen draw ni'n edrych ar fuddsoddi i'r dyfodol."
Yn y gorffennol mae troseddwyr wedi gorfod cael eu rhoi mewn dalfeydd yn Rhydaman neu Hwlffordd oherwydd diffyg lle.
Yn ôl y cynghorydd tref i ward Tyisha, Terry Davies, roedd hyn yn golygu fod yna lai o blismona'n digwydd yng nghanol y gymuned yn Llanelli.
"Ni wedi bod yn aros am y custody suite yma am flynydde' i ddweud y gwir. Mae'r heddlu yn ail i ddim yn Llanelli ond maen nhw lan yn erbyn e'.
"Beth sy'n digwydd yw, ni'n cael pobl sydd wedi bod yn ddrwg ond mae'n cymryd llond llwyth o amser i gymryd nhw lan i Rydaman neu Chaerfyrddin.
"Mae'n cymryd llond llwyth o amser mas o heddweision yn y dref, lle ddylen nhw fod mas yn y gymuned."
Adeilad amgylcheddol
Roedd yna ymgynghori gyda chymuned Dafen ynglŷn â'r adeilad.
Yn ôl y cynghorydd sir dros Ddafen a Felinfoel, Rob Evans, roedd yr ymateb yn gadarnhaol.
"Ni yn ardal Dafen pob dydd, a ni'n mynd o gwmpas y gymuned a dwi'n meddwl fod y gymuned yn croesawu'r adeilad," meddai.
"Dwi'n teimlo bydd pobl yn teimlo'n saffach fod yna orsaf heddlu lan yr hewl."
Mewn datganiad fe ddywedodd y Swyddfa Gartref: "Rydym wedi ymrwymo i roi'r adnoddau sydd eu hangen ar yr heddlu i fynd i'r afael â throseddau.
"Rhaid i Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu benderfynu ar y ffordd orau o ariannu eu heddluoedd lleol drwy'r dreth gyngor.
"Yn 2023/24 rydym yn darparu cyllid heddlu o hyd at £17.2 biliwn ar draws Cymru a Lloegr, cynnydd o hyd at £313.8m o gymharu â 2022/23.
"Mae hyn yn cynnwys hyd at £136.7m ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys, cynnydd o hyd at £6.9m o gymharu â 2022/23."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2023