Thomas yn ymestyn ei fantais yng nghrys pinc y Giro d'Italia

  • Cyhoeddwyd
Geraint Thomas a Primož RogličFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Geraint Thomas dros y llinell derfyn gyda Primož Roglič, sydd bellach yn ail yn y dosbarthiad cyffredinol

Mae Geraint Thomas wedi ymestyn ei fantais yn y Giro d'Italia o 18 i 29 eiliad gyda pherfformiad cryf arall ar y 18fed cymal ddydd Iau.

Ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn 37 oed, gorffennodd yn yr wythfed safle ar y cymal mynyddig, ond doedd y rheiny orffennodd o'i flaen ddim o berygl i'r Cymro yn y dosbarthiad cyffredinol.

Daeth Thomas dros y llinell gyda Primož Roglič o Slofenia, oedd yn drydydd ar ddechrau'r dydd ond sydd bellach yn ail.

João Almeida o Bortiwgal oedd yn ail ar ddechrau'r cymal, ond gorffennodd 21 eiliad tu ôl i Thomas a Roglič, sy'n golygu ei fod yn disgyn i'r trydydd safle.

Dau gymal cystadleuol sy'n weddill yn y Giro eleni, a'r ddau yn rhai anodd iawn.

Cymal arall yn y mynyddoedd sy'n wynebu'r seiclwyr ddydd Gwener, a chymal byrrach yn erbyn y cloc, ond yn dringo mynydd, ddydd Sadwrn.

Bydd y ras yn gorffen gyda chymal yn Rhufain ddydd Sul, ond does fawr o rasio yn digwydd ar y diwrnod olaf.

Dosbarthiad cyffredinol

  1. Geraint Thomas (Ineos Grenadiers) - 76 awr, 25 munud, 51 eiliad

  2. Primož Roglič (Jumbo-Visma) +29"

  3. João Almeida (UAE Team Emirates) +39"

  4. Eddie Dunbar (Jayco AlUla) +3'39"

  5. Damiano Caruso (Bahrain Victorious) +3'51"

Pynciau cysylltiedig