Dylan Parry: O'r dibyn i ddechrau o'r newydd
- Cyhoeddwyd
"Do'n i ddim yn iach ac o'n i mewn lle ofnadwy o beryg - unai i gael strôc neu drawiad ar y galon. O'n i ar y dibyn a dwi'n diolch i'r arbenigwyr bod nhw wedi rhoi'r 'tools' oedd angen arna fi i dynnu fi nôl oddi ar y dibyn yna."
Mae bywyd y Parchedig Dylan Parry wedi ei drawsnewid yn sgil ei brofiad fel un o arweinwyr FFIT Cymru eleni.
Cyn y gyfres roedd y gweinidog o Gaernarfon wedi cael deiagnosis o ddiffyg anadl sy'n atal cwsg (sleep apnoea) ac roedd hefyd mewn perygl o gael clefyd y siwgr.
Sioc
Ond y sioc mwyaf iddo oedd clywed yr ystadegau oedd yn dangos fod ganddo'r lefelau uchaf o fraster perfeddol (visceral fat) yn hanes y gyfres, fel mae'n sôn wrth Cymru Fyw: "Ar ôl bod yn y stiwdio 'nes i dorri lawr.
"Hwnna oedd yr ergyd waethaf - clywed mai fi oedd y gwaethaf o ran visceral fat maen nhw erioed wedi cael. Mae hwnna yn dod yn sioc ofnadwy.
"Mae clywed yr ystadegau 'na yn sobri rhywun ac o'n i'n benderfynol o'r diwrnod cynta' mod i'n mynd i newid y canlyniadau yna.
"Dwi wedi gallu lleihau y visceral fat; dwi wedi tynnu 13% i ffwrdd ohono ac mae hwnna just yn saith wythnos o waith caled. Dyna mae FFIT Cymru wastad yn dweud - mae'n gynllun hawdd i'w ddilyn ond mae'n gynllun anodd hefyd. Mae'n rhaid i chi roi pob ymdrech mewn i'r cynllun."
Llwyddiant
Ac mae Dylan, sy'n gwasanaethu ardal Pen-y-bont ar Ogwr fel gweinidog, wedi trawsnewid ei iechyd a'i ffitrwydd gan golli tair stôn a thri phwys dros saith wythnos o ddilyn y cynllun: "Mae wedi bod yn brofiad anhygoel.
"Cyn 'neud y cynllun o'n i mewn lle peryg' iawn ac mae dilyn y cynllun mae wedi newid fy mywyd i."
Tynnu waliau i lawr
Nid dysgu sut i fwyta'n iach ac ymarfer corff oedd yr unig her - mae Dylan yn credu'n gryf fod newid agwedd wedi bod yn allweddol: "Mae penderfynu mynd yn gyhoeddus (wedi helpu) achos dwi wedi bod dros fy mhwysau ers dwi'n cofio - o'n i'n blentyn reit fawr a dwi erioed wedi adnabod cyfnod lle dwi wedi bod yn gwbl iach.
"Yn ystod y gyfres yma dwi wedi agor allan yn fwy am fy nheimladau fy hun achos oedd gen i wal i fyny - tu ôl i'r drysau caeedig o'n i'n bwyta mewn i 'nheimladau fy hun. Oedd rhaid i'r wal yna ddod i lawr er mwyn trio gwella ac er mwyn symud ymlaen o ran y ffitrwydd.
"Felly mae wedi bod yn brofiad holistig mewn gwirionedd - mae'r bwyta iach, y ffitrwydd a'r iechyd meddwl wedi dod law yn llaw."
Mae Dylan yn diolch i seicolegydd y gyfres, Dr Ioan Rees, am helpu i 'dynnu'r waliau': "Pan o'n i yno ar gyfer y diwrnod asesu dywedodd Dr Ioan fod rhaid bod yn gwbl agored ac onest, rhywbeth dwi ddim wedi bod yn gwneud.
"Dwi ddim yn siarad am fy nheimladau fy hun; fel gweinidog mae rhywun yn cadw ei deimladau er mwyn bod yn broffesiynol. Roedd Dr Ioan wedi dweud fod pob un ohonoch chi wedi bod yn twyllo'ch hunain os ydy chi'n dweud bod chi wedi bod yn iawn. A dwi wedi bod yn twyllo fy hun ers blynyddoedd - twyllo'n hun i'r ffaith fod fy nghorff i yn dweud fel arall.
"Dr Ioan helpodd fi i ddod â'r wal 'na lawr a bod yn fwy agored.
"O'n i'n cael fy mwlio yn yr ysgol i 'neud â 'mhwysau ac mae hwnna wedi cario 'mlaen - pan mae rhywun yn gyhoeddus ella' wneith rhywun ddweud rhywbeth am eich pwysau chi.
"Allwch chi gymryd o fel sioc a bod chi'n dweud fod cywilydd arnyn nhw am ddweud y ffasiwn beth am eich pwysau chi... neu mynd amdani i 'neud rhywbeth amdano fo.
Tabŵ
"Mae dal yn dabŵ i siarad am bwysau pobl eraill - do'n i ddim yn siarad yn agored am ffitrwydd a iechyd a gorbwysedd a dwi wedi dysgu bod hi'n iawn i siarad amdano fo ac mae isho cael gwared o'r tabŵ achos gwella iechyd rhywun ydy'r cam pwysicaf un.
"O'n i'n casáu edrych yn y drych, oedd gen i ddim perthynas dda â nghorff ac oedd hwnna ar brydiau yn mynd a fi mewn i iselder.
"Mae edrych yn y drych rŵan a gweld bod fi wedi gwneud newid positif i nghorff a'n iechyd meddwl i, dwi'n teimlo lot mwy positif."
Her
Nawr fod y gyfres wedi gorffen, yr her yw cadw i'r arfer o fwyta'n iach ac ymarfer corff, fel mae Dylan yn esbonio: "Y sialens fwyaf ydy pan mae rhywun yn edrych ar amserlen gwaith, cadw'r balans.
"Mae fel jyglo, mae 'na adegau pan fydd y bêl yn disgyn. Pan mae'r bêl wedi disgyn gen i yn y gorffennol, dwi wedi ei adael o yna. Mae'n rhaid i fi gario 'mlaen i gadw'r balans.
"Mae cynllun FFIT Cymru yn gynllun intense pan mae'n dod at ffitrwydd ac mae 'na rywbeth bob dydd - ymwrthiant neu rhedeg. Mae hwnna'n parhau hefyd wrth gwrs - mae gosod targedau a gosod gôl wythnosol yn bwysig iawn.
Perthynas yr arweinwyr
"Fel arweinwyr 'da ni wedi tyfu'n agos iawn at ein gilydd ac yn gosod tasgau i ni'n hunain - 'da ni'n mynd i gerdded yr Wyddfa a Pen y Fan efo'n gilydd a mynd i wneud hanner marathon Caerdydd ym mis Hydref.
"Dwi'n gwybod mai'r allwedd ydy bod ni'n dal i gysylltu efo'r arweinwyr eraill a pharhau i fod yn gefn i'n gilydd. 'Da ni'n gwybod bod hi'n anodd ond mae'n rhaid i ni fod yn gefn i'n gilydd."
Ysbrydoliaeth
Mae trawsnewidiad Dylan wedi ysbarduno pobl eraill yn ei gymuned hefyd: "Mae pobl yn stopio fi o hyd ar y stryd - mae 'na gymaint o bobl sy' wedi cysylltu efo fi sy' mor ddiolchgar i mi ond hefyd sy' wedi bod yn yr un sefyllfa.
"Mae rhai o nhw sy'n byw ar ben eu hunain fel ydw i. Mae gymaint o bobl sy'n byw eu hunain sy'n cael hi'n anodd i ymarfer corff neu i fwyta'n iach. Mae lot wedi dweud bod nhw wedi cychwyn o'r newydd ac wedi cael eu sbarduno oherwydd mod i'n 'neud y cynllun hefyd.
"Mae clywed hynny yn codi calon rhywun.
Cyngor Dylan
"Buaswn i'n rhoi yr un cyngor â roiodd Dr Ioan i mi ar gychwyn y gyfres - sef i chi fod yn arwr yn eich stori eich hun. Dim ond ti all newid dy fywyd dy hun.
"Unrhyw un sy'n meddwl am drawsnewid eu bywydau i gymryd un cam ar y tro."