Siom i Geraint Thomas yn ras y Giro d'Italia
- Cyhoeddwyd
Roedd yna siom i Geraint Thomas yn ras y Giro d'Italia ddydd Sadwrn wedi iddo gael ei drechu gan Primož Roglič o Slofenia.
Cymal byrrach yn erbyn y cloc, ond yn dringo mynydd, oedd cymal 20 ac roedd nifer yn gobeithio y byddai Geraint Thomas yn ennill ond mae'n edrych yn debygol bellach mai Roglič fydd yn gwisgo'r crys pinc.
Roedd Roglic 40 eiliad ar y blaen i Thomas yn y cymal diweddaraf ac mae e 14 eiliad ar y blaen yn y dosbarthiad cyffredinol gan adael Geraint Thomas yn ail.
Fe lwyddodd y seiclwr o Slofenia i ennill y cymal er iddo gael problemau gyda tsiaen ei feic.
18.6 km oedd hyd y cymal ac roedd yn ymestyn rhwng Tarvisio a chopa Mynydd Lussari - gyda'r rhan fwyaf o waith dringo serth yn digwydd yn ail rhan y daith.
Bydd y ras yn gorffen yn Rhufain ddydd Sul, ond does fawr o rasio yn digwydd yng nghymal 21 ar y diwrnod olaf - dim ond 135km o orymdaith o gwmpas y ddinas hanesyddol.
Mae ras y Giro eleni wedi ei heffeithio'n ddrwg gan dywydd gwael, salwch a damweiniau i'r beicwyr.
Geraint Thomas, o Gaerdydd, oedd y Cymro cyntaf i ennill y Tour de France yn 2018 ac roedd yna obeithion y byddai'n ennill y Giro wedi iddo sicrhau y crys pinc - y Maglia Rosa - yn gyson.
Mae Thomas yn seiclo i dîm INEOS Grenadiers.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mai 2023
- Cyhoeddwyd23 Mai 2023
- Cyhoeddwyd20 Mai 2023