Americanwr a 'syrthiodd mewn cariad â'r Gymraeg' wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae ardal Caernarfon wedi'i syfrdanu ar ôl marwolaeth sydyn Americanwr a oedd wedi ymgartrefu yn y dref ers ychydig dros flwyddyn.
Bu farw Phil Wyman, a oedd yn gweithio yn eglwys Caersalem, wedi iddo gymryd rhan mewn noson yng Ngŵyl y Gelli.
Roedd wedi dod i'r DU ar fisa cenhadwr ac yn cyfuno dysgu Cymraeg gyda chrwydro gwyliau a digwyddiadau.
Wrth siarad â Cymru Fyw y llynedd, dywedodd Mr Wyman ei fod wedi "syrthio mewn cariad efo Cymru, efo Caernarfon ac efo'r Gymraeg hefyd".
'Gweinidogaeth unigryw'
Dywedodd un o arweinwyr Caersalem, Rhys Llwyd ei fod wedi colli "ffrind a gweinidog oedd yn pontio ffydd, athroniaeth a diwylliant".
"Roedd yn ymwelydd cyson gyda ni bob haf ers blynyddoedd ac ers blwyddyn yn gweithio gyda ni fel eglwys ar gynllun VISA Undeb Bedyddwyr Cymru," meddai wrth Cymru Fyw.
"Roedd ei alwad a'i weinidogaeth yn unigryw ac roedd yn mynd â'r sgwrs am fywyd, ffydd a phwrpas yn bell tu hwnt i furiau'r capel mewn ffordd nad oes llawer yn medru gwneud.
"Byddwn hefyd yn cofio'n arbennig am ei ddoniau a'i gyfraniad i fywyd mawl a cerddorol yr eglwys (roedd newydd orffen recordio Concept Album yn mynd trwy'r Gwynfydau!) heb sôn am ei chwerthiniad iach!
"Roedd yn bererin, a bu'n grwydryn, yn ystyr lythrennol y gair. Ond fe ddyfnhaodd hyn ei ffydd ac yng nghanol y profiadau hynny daeth yr alwad i Gymru yn rhan o'i stori."
Roedd mynd i wyliau yn rhan o'i genadwri, ychwanegodd, ac ers blynyddoedd roedd yn mynychu Gŵyl y Gelli.
Roedd Phil Wyman, 64, nid yn unig wedi symud yr holl ffordd o'r Unol Daleithiau i fyw yng Nghymru er mwyn dysgu Cymraeg ond roedd ar fin teithio o amgylch y wlad am flwyddyn a diwrnod ac yn bwriadu peidio siarad gair o Saesneg.
Cyn symud i Gymru roedd Phil Wyman yn weinidog yn Salem, Massachusetts.
Roedd wedi gobeithio y byddai dysgwyr eraill yn ymuno ag ef ar ei daith 'Cymraeg yn unig' pan fyddai yn dechrau arni o Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023.
"Dwi eisiau dechrau y daith dros y wlad yn yr Eisteddfod y flwyddyn," dywedodd ar y pryd.
"Ac i fynd o'r Eisteddfod i'r Eisteddfod nesa' yn cerdded bob dydd efo pobl eraill - syniad crazy iawn dwi'n gwybod ond mae fy nghalon yn teimlo yn gryf iawn am y peth."
Ychwanegodd Rhys Llwyd: "Roedd e wedi syrthio mewn cariad â Chaernarfon a'r Gymraeg.
"Er mai ond ychydig dros flwyddyn roedd e wedi bod yma - mi fydd hi'n chwithig iawn hebddo.
"Roedd e'n rhan o deulu Caersalem a thre' Caernarfon."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd30 Mai 2023